MAE CYFARWYDDWR theatr mewn addysg Cymru wedi galw am ddiswyddo swyddogion Cyngor y Celfyddydau sy'n gyfrifol am greu Strategaeth Ddrama sydd wedi arwain at lanast ac anghydfod. Mae cwmni arall yn bwriadu mynd a'r Cyngor i'r llys i hawlio iawndal ar ol i gytundeb newydd gael ei ddileu gwpwi o fisoedd cyn iddo ddechrau. "Coc-yp" yw'r unig air sydd gan Jeremy Turner o Theatr Arad Goch yn Aberystwyth i ddisgrifior ffaith fod y Cyngor wedi newid ei feddwi yn llwyr ynglyn â chynllun i roi arian i bum cwmni theatr ieuenctid yn lle wyth. Fe ddaeth y tro pedol wrth i'r Cyngor ddod dan bwysau gan awdurdodau lleol - mae'n golygu fod y pum cwmni wedi dechrau cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesa' ac wedyn wedi clywed fod pawb yn mynd yn ôl i'r hen drefn. "Oeddwn i fel pendil rhwng bod yn holiol grac a gwyllt a wedyn chwerthin yn afreolus bod coc-yp mor fawr wedi digwydd:' meddai Jeremy Turner. "Yr hyn wnaeth daro fi oedd bod Cyngor y Ceifyddydau a rhai o'i swyddogion mor analluag i weithredu cynlluniau. "Rydyn ni wedi treulio dros flwyddyn yn gwario o'n hamser a'n hadnoddau a'n nerfe yn paratoi cynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesa'. Dw i am i rai o uwch swyddogion y Cyngor Ceifyddydau gael eu di-swyddo. "Dw i am weld mwy o arian i theatr i blant a theatr Gymraeg, ac mae'n rhaid i'r Strategaeth yn ei chyfanrwydd gael ei diddymu. Mae angen ymchwiliad i weld pwy oedd wedi arwain pawb i'r dryswch hyn." Mae cwmni Spectacle o'r Cymoedd yn ystyried ymater yn gyfreithiol gan eu bod nhw wedi dechrau paratoi cynlluniau ar gyfer yr arian ychwanegol yr roedden nhw i fod i'w dderbyn cyn y tro pedol. "Dw i'n dadlau ar hyn o bryd y bydd y cost o tua £40,000," meddai Steve Dayies ar ran y cwmni. Mae cwmni'r Frân Wen o Borthaethwy yn credu y bydd yr helynt wedi costio £10,000 iddyn nhwthau ar ôl cael ac yna coili'r cytundeb ar gyfer Gogiedd Cymru i gyd. "Dw i ddim yn gweld sut y gall pobol lunio strategaeth, ei dileu hi, a pheidio â gweld diffyg ynddyn nhw eu hunain:' meddai lola Ynyr o'r cwmni "Rydan ni wedi comisynu awdur am y fiwyddyn, rydan ni wedi gwario peth o'n cyllid am y fiwyddyn nesa', a rydan ni'n gobeithio y cawn ni'n digolledu." [Golwg, Cyfrol 12 Rhif 20, Ionawr 27 2000] |
Golwg web site: www.golwg.com |
e-mail: |
Thursday, January 27, 2000![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999