Dyw Cadeirydd Cymgor Celfyddydau Cymru ddim yn cytuno â'r Strategaeth Ddrama y mae'n trio ei chyflwyno i gwmnïau Cymru. A'i dyma'r ffars orau a wêl y gynulleidfa Gymreig eleni? Cymeriadau: Cyngor Celfyddvdau Cymru sydd newydd benderfynu ar strategaelh newydd ar gyfer theatr i bobol ifanc - pum cwmni yn lle wyth. Lot o gwmniau drama - pump gweddol hapus a thri ofnadwy o flin. Cynghorau lleol - gyda llawer yn flin hefyd. Prolog Ddydd Mercher yn union cyn iddyn nhw ymddangos o flaen Pwyllgor Addysg 16 + y Cynulliad, fe gyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod nhw'n gohirio eu neiwidiadau i theatr pobol ifanc am flwyddyn. Felly, ar ol wythnosau o gwyno, fydd Theatr Powys, Theatr Gwent a Clwyd Theatr Cymru ddim yn colli eu grantiau am 12 mis. Ac, ar ol wythnosau o gynllunio a pharatoi, fydd y pum cwmni Ilwyddiannus ddim vn cael ehangu. Tan hyn, roedd y Cyngor wedi gwrthwynebu pob cais i ohirio'r strategaeth er mwyn aros am gasglladau'r Cynulliad ond yn awr roedden nhw'n cydnabod taw pleidlais gan Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru a wnaeth orfodi'r tro pedol. Heb gefnogaeth ariannol y cynghorau, fyddai'r cynllun ddim yn gweithio. "Mae'r teimlad cynta' yn un o ddileit. Mae'n gam drastig i lawr gan Cyngory Celfyddydau," meddai Sophie Anderson o Theatr Powys, un o'r cwmnyau oedd ar fin colli eu harian. Ddeuddydd cyn y cyhoeddiad, roedd hi mewn cyfarfod oedd yn cynnwys Cynghorwyr, Aelodau Cynulliad, athrawon, a gweithwyr theatr, a bleidleisiodd yn unfrydol yn erbyn y Strategaeth Ddrama. "Ddylai Theatr i Bobol Ifane ddim fod yn agred i gystadleuaeth a bidio. Doedd hyn ddim vn ymwneud â rhoi arian da i gwmniau er mwyn rhol gwasanaeth safonol. Roedd e'n ymwneud ag arbed £169,000." "Dyw hyn ddim yn enghraifft o'r Cyngor Celfyddydau yn gwrando ac yn ymateb. Digwyddodd hyn oherwydd momentwm gwleidyddol," meddai Chris Ryde, cadeirydd Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Cymru, WAPA. "Maen nhw wedi cocio lan mor wael, a rhoi cymaint o arian llywodraeth leol mewn peryg. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i arbed y sefyllfa. Yn ddigon ffodus does dim un o'r cyngorau lleol wedi gwario'r arian ar un-rhywbeth arall.' Mae ef, felly, yn gweld cyfle i ddadwneud y strategaeth wreiddiol ac mae ei feirniadaeth fawr ynglyn a'r ffordd yr aeth y Cyngor ati, er enghraifft y system farcio a ddefnyddiwyd i benderfynu rhwng y cwmnyau. "Roedd y marcio yn ymddangos yn od. Pam na wnaethon nhw benderfynu p'run oedd y cais orau'? Fe ddaeth Theatr Clwyd yn bedwerydd allan o wyth, a chawson nhw ddim cytundeb. Yn amlwg roedden nhw'n grac oherwydd hynny "Dw i'n meddwl taw dyma'r mess grantiau gwaetha' dw i wedi ei weld mewn pum mlynedd ar hugain. Dw i wedi gweld rhai gwael yn fy amser, ond dw i erioed wedi gweld shambls fel hyn." Mae'r drydedd act yn agor gyda chwestiwn. Pam fod y Cyngor wedi panicio a rhoi'r gorau i'w cynlluniau'? Does dim arwydd fod ganddyn nhw lawer i'w ofni oddi wrth y Cynulliad - roedd yr Ysgrifennydd, Tom Middlehurst, eisoes wedi cefnogi safiad y Cyngor er fod Clwyd Theatr Cymru, o'i ardal ef ei hun, yn colli. "Dw i ddim yn gwybod pam fod Tom Middlehurst wedi el uniaethu ei hun efo'r Cyngor i'r fath raddau," meddai Chris Ryde. "Dw i wedi rhoi'r gorau i'w lobio fe achos mae ei feddwl mor gadedig. Roedd e'n gwneud i chi feddwl pam oedd yna Gynulliad o gwbl." 0 du San Steffan roedd y peryg, gydag ASau yn gofyn am ymchwiliad. Un o feirniaid cynta' y Strategaeth Ddrama oedd Sybil Crouch. Fel cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Taliesin yn Abertawe fe ysgrifennodd adroddiad beirniadol o'r cynllunlau, yn enwedig yr elfen Theatr i Bobol ifanc. Yna fe gafodd hi ei phenodi yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Wedi dod i'r swydd y llynedd, fe gafodd ei chlywed yn cyfadde' fod gan y strategaeth "wallau dwfn" mewn un cyfarfod o WAPA. Serch hynny, mae hi'n amddiffyn y penderfyniadau diweddar, ac yn gwadu taw tro pedol sydd yma. "Mae'r penderfyniad oherwydd y cyfarfod a gawson ni gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddydd Llun diwetha'. Roedden nhw'n rhoi dadleuon cryf i ni ohirio." Yn wahanol i ddadleuon y cwmniau unigol, roedd yn rhaid i'r Cyngor Celfyddydau gymryd sylw gan fod y Cynghorau Lleol yn bartneriaid ariannu ac roedd rhai ohonyn nhw'n bygwth atal yr arian. Y lein swyddogol yn awr yw y bydd y Cyngor a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn cydweithio ar ail-greu'r strategaeth. Mac Sybil Crouch yn cydnabod fod gwendidau i'r ffordd yr ymgynghorodd y cyngor, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd ariannol llywodraeth lleol "Oedd problemau gyda'r amserlen," meddai. "Oedd yna broblemau gyda'r awdurdodau eu hunain hefyd. Oedd yr awdurdodau yn dechrau ail strwythuro, ae yn paratoi at etholiadau. Doedd e ddim yn amser da iawn pan wnaethon ni gysylltu. "Mac yna wersi i ni ddysgu, mae eisie i ni roi lot mwy o amser, yn enwedig o ran yr awdurdodau. Des i mewn ar ddiwedd y broses. Ar y pryd roedd y cyngor yn meddwl eu bod nhw wedi gwneud job dda ar y broses ymgynghori. "Mae'n hwyr yn y dydd, ond mae'n dangos bod y Cyngor yn fodlon gwrando. Faswn i'n mo'yn amddiffyn y ffaith fod wastad angen i'r Cyngor Celfyddydau gymryd penderfyniadau anodd." "Dydyn ni ddim yn mynd yn ol," meddai Sybil Crouch yn bendant wrth drafod y penderfyniad am Theatr i Bobol Ifanc. "R'yn ni'n mynd i'w cadw nhw fel maen nhw am flwyddyn er mwyn cael trafodaeth gyda'r cynghorau lleol." Ond mac yna ystyriaeth arall - mae yna rannau eraill i'r strategaeth ac, yn ystod y mis nesa', roedd disgwyl i'r Cyngor benderfynu ai cwmni Dalier Sylw, Made In Wales neu'r Sherman fydd yn cael cytundeb i hybu dramodwyr newydd. "O ran sgrifennu newydd a rhannau eraill y strategaeth, hyd y gwn i does dim newid," meddai Sybil Crouch. "Nld u-turn oherwydd pwysau oedd y datganiad. Dydan ni ddim yn darparu arian Theatr i Bobol Ifanc ar ben ein hunain. Mae'n hollol ddibynnol ar yr awdurdodau lleol." "Mae'n slop siafins," yw ymateb Tim Baker o Clwyd Theatr Cymru i'r datganiad diweddara, a hynny er ei fod e yn elwa ohono. "Mae'r sioc o wybod bod gyda ni ddyfodol fel pilsen siwgr a halen. Rydan ni wedi gweithio'n galed iawn ar y cais, ar yr apel ac ar y posibilrwydd y byddai'r adran yn cau. Mae'r staff wedi bod i gyfweliadau am jobs eraill. "Ar y llaw arall mae'r Fran Wen wedi dechrau gwneud cynllunlau am y flwyddyn nesa' a chomisiynu gwaith. Mae'r peth yn fes llwyr. Misoedd o waith. Misoedd o straen, a sawl llythyr gyda cwestiynau sydd heb eu hateb. Mae'r ffaith eu hod nhw wedi gwneud penderfyniad blanced wedi creu smoke screen dros y cwestiyne eraill." |
Golwg web site: www.golwg.com |
Iwan England e-mail: |
Tuesday, January 25, 2000![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999