Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ymarfer ar gyfer sioe fawr y llyfr mawr!     

Ymarfer ar gyfer sioe fawr y llyfr mawr! Gydag ychydig dros bythefnos nes i’r cynhyrchiad diweddaraf gan Theatr Bara Caws, sioe gerddorol Llyfr Mawr y Plant gychwyn ar ei thaith o gwmpas Cymru, mae’r cast a’r criw yn brysur yn ymarfer yng Nghanolfan Barcud Derwen yn Cibyn, Caernarfon.

Ymysg y cast ar gyfer y cynhyrchiad uchelgeisiol hwn mae nifer o wynebau cyfarwydd o fyd theatr, teledu a chanu gan gynnwys Eilir Jones, Sian James, Neil ‘Maffia’ Williams, Delyth Eirwyn, Merfyn Pierce Jones, Iwan Charles, Siwan Llynor Carys Gwilym, Arwel Wyn Roberts, Darren Stokes a Catrin Jane Evans.

Bydd y sioe, sy’n addo bod yn un lliwgar a hwyliog i bob oedran ei fwynhau, yn cychwyn ei thaith yn Theatr Gwynedd ar Hydref 4ydd cyn ymweld ?? Theatr y Pafiliwn Rhyl, Theatr Mwldan Aberteifi, Canolfan y Mileniwm Caerdydd a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Meddai Tony Llewelyn, cyfarwyddwr y cynhyrchiad:

‘Er fod llawer o baratoi’n mynd ymlaen cyn yr ymarferiadau, dyma pryd mae pawb yn dechra cyffroi o ddifri am y sioe. Mae petha’n dod at ei gilydd rwan, a ‘da ni gyd wedi ymgolli’n llwyr ym myd Sian Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac, Eban Jones a chymeriadau eraill Llyfr Mawr y Plant, sy’n dipyn o hwyl a deud y gwir! Mae pawb yn awyddus iawn i’r sioe yma wneud cyfiawnder ‘i’r cyfrolau enwog ‘ma sydd wedi diddanu cymaint o blant dros y blynyddoedd.’

Yn ol sgriptiwr y sioe Gareth F. Williams, sydd hefyd wedi darparu’r geiriau i gyd-fynd a cherddoriaeth Catrin Edwards, gallwn ddisgwyl i’r sioe adlewyrchu’r ochrau doniol a’r ochrau tywyll i straeon enwog J.O Williams a Jennie Thomas, gafodd eu cyhoeddi am y tro cyntaf yn 1931.

‘Mae’r cymeriadau’n rhai byw iawn, ac mae ‘na straeon digri dros ben. Ond hefyd mae ‘na ryw haen o dywyllwch pendant ynddyn nhw, a dwi wedi ceisio adlewyrchu hynny yn y sgript ar gyfer y sioe.

Dwi’n cofio pan oeddwn i’n fach, un o’r pethau mwya’ cripi wnes i ddarllen oedd y bennod ‘na am Sion Blewyn Coch a’i deulu yn y ffau, a hwythau’n clywed y ‘Tap, tap, tap’ ‘na’n dod yn nes. Ond roeddwn i wrth fy modd yn cael fy nychryn gan fy nychymyg fy hun. Oedolion sy’n mynd i gofio’r llyfr wrth gwrs, ond dwi’n gobeithio gwneith o hefyd apelio i genhedlaeth newydd sbon, a’u hybu nhw i ddarllen y straeon fel gwnes i.’

Ewch i www.sioegerddllyfrmawryplant.co.uk am ragor o fanylion y daith a sut i archebu tocynnau.

Mae’r sioe yn gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Bara Caws, Theatr Gwynedd a Galeri ac yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hybu theatr y tu allan i Gaerdydd.

 
web site
: www.sioegerddllyfrmawryplant.co.uk

e-mail:
Tuesday, September 23, 2008back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk