Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

25 Medi 2008 Bwrdd y Celfyddydau yn hanfodol i ddatblygu y Celfyddydau yn strategol yng Nghymru medd y Gweinidog dros Dreftadaeth     

25 Medi 2008

Bwrdd y Celfyddydau yn hanfodol i ddatblygu y Celfyddydau yn strategol yng Nghymru medd y Gweinidog dros Dreftadaeth Heddiw (25 Medi) cadeiriodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, ei gyfarfod cyntaf o Fwrdd Strategaeth y Celfyddydau.

Dywedodd Alun Ffred Jones: “Mae gan Fwrdd Strategaeth y Celfyddydau ran hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod y polisi ar gyfer y celfyddydau yn cael ei ddatblygu mewn modd sy’n gydlynus a hefyd yn drawsbynciol. Mae’r celfyddydau yng Nghymru yn ffynnu ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau eu bod ar gael i’w mwynhau gan bawb yng Nghymru. Mae’r Bwrdd yn helpu i gyflawni hyn drwy edrych ar y celfyddydau mewn modd mwy strategol a thrwy ddatblygu dulliau newydd a mwy effeithiol o weithio ar draws ffiniau traddodiadol.”


Yn ystod y cyfarfod, trafododd y Bwrdd nifer o faterion gan gynnwys:

Cynigion cychwynnol i gynnal astudiaeth gwmpasu ar bartneriaeth ranbarthol beilot yn y Gogledd
Cymeradwyo’n swyddogol y strategaethau ar gyfer ffurfiau ar gelfyddyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Diweddariad ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar waith i greu cysylltiadau cryfach rhwng y celfyddydau ac iechyd.

Y cyfarfod hwn hefyd oedd y tro cyntaf i Nick Capaldi, Prif Weithredwr newydd Cyngor y Celfyddydau yng Nghymru, fynychu Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau.

Dywedodd Nick Capaldi “Mae cefnogi gweithgareddau egnïol ardderchog yn y celfyddydau a’u cyflwyno gerbron y gynulleidfa ehangaf bosibl ledled Cymru yn ganolog i ddyheadau Cyngor Celfyddydau Cymru at y dyfodol. Mae Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau yn gyfrwng gwych i ni weithio’n bositif gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau bod yr uchelgais hwnnw’n cael ei wireddu.”

Cynhelir y cyfarfod nesaf o Fwrdd Strategaeth y Celfyddydau ym mis Rhagfyr.
Cynulliad Cymru  
web site
:

e-mail:
Thursday, September 25, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk