Cynulleidfaoedd Cymru yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel ei bri§ |
![]() O dros hanner cant o ymgeiswyr mae Prosiect Gwybodaeth Cynulleidfaoedd Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer o bymtheg cystadleuydd. Astudiaeth arloesol gan Cynulleidfaoedd Cymru sy’n dilyn trywydd data swyddfa docynnau ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydol yng Nghymru yw Y Wybodaeth (The Knowledge). Mae cael dealltwriaeth o gynulleidfaoedd yn hanfodol ar gyfer marchnata effeithiol, ac mae Cynulleidfaoedd Cymru ar flaen y gad wrth gynyddu’r lefelau gwybodaeth ynghylch y llefydd y mae cynulleidfaoedd yn dymuno mynychu, pa mor aml y maent yn ymweld, a sut y maent yn dod i wybod ynghylch digwyddiadau. Trwy ddadansoddi gwybodaeth sy’n cael ei gywain gan swyddfeydd tocynnau, gall Cynulleidfaoedd Cymru gynorthwyo theatrau a chanolfannau celfyddydol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, annog mynychu amlach a meithrin perthynas well â chwsmeriaid. Mae’r Sefydliad Marchnata Siartredig wedi lansio Gwobrau Marchnata Cymru er mwyn dathlu a hyrwyddo ardderchowgrwydd yn y diwydiant marchnata yng Nghymru. Bydd pum enillydd yn cael eu dethol o blith y cystadleuwyr yn seiliedig ar ragoriaeth yr ymgais o fewn eu cyd-destun penodol. Cyhoeddir yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo ar 9 Hydref 2008. |
web site: www.audienceswales.co.uk |
e-mail: nick@audienceswales.co.uk |
Saturday, September 27, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999