Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Yr Ystafell Aros – The Waiting Room     

Yr Ystafell Aros – The Waiting Room Yr Ystafell Aros gan yr awdures amryddawn Caryl Lewis yw cynhyrchiad cymunedol Cwmni Theatr Arad Goch eleni. Dyma ail ddrama Caryl i Arad Goch. Profodd Yr Ysbryd a lwyfannwyd yn 2005 yn boblogaidd iawn ymysg y gynulleidfa ifanc, a dyma’r nod ar gyfer y cynhyrchiad hwn hefyd.
Mae’r ddrama yn ymwneud a hunaniaeth pobl a’r rhwystrau mae rhai yn gorfod eu hwynebu wrth geisio darganfod pwy ydynt mewn gwirionedd. Dyma ddrama am dyfu i fyny, tor priodas a salwch rhiant. Drama sy'n cwestiynu ein syniad o 'lwyddiant'. Drama sy'n edrych ar pa mor wahanol gall aelodau o'r un teulu fod. Dilynwn frawd sy'n serennu ar lwyfannau, chwaer sy'n aros i'w bywyd ddechrau yn ôl adref a mam sydd â chyfrinach fawr fydd yn gwyrdroi bywydau'r tri am byth.

Chwaraeir rhan Siôn, yr actor ifanc sy’n gadael gartref i ddilyn ei freuddwydion, gan Ioan Gwyn o Dalybont, a Mari Beard o Aberystwyth sy’n chwarae rhan y chwaer, Sara, sy’n aros yn ei chynefin i ofalu am ei mam . Mae’r ddau yn actorion ifanc proffesiynol sy’n cydweithio’n arbennig o dda ac yn llwyddo i gynnal sylw’r gynulleidfa yn y ddrama drwyddi draw.



The Waiting Room by the talented author, Caryl Lewis, is Cwmni Theatre Arad Goch’s community show this year. This is Caryl’s second play for Arad Goch.
‘The Spirit’ which was performed in 2005 proved to be very popular with young audiences and that is also the aim of this play.

This play deals with people’s identity and the obstacles people have to face when trying to find out who they really are. This is a play about growing up, marriage break-up and coping with a sick parent. A play that questions our idea of ‘success’. A play that looks at how different individuals within one family can be. We follow the story of a brother who stars on stage, a sister who is waiting back home for her life to begin, and a mother who harbours a big secret that will transform all their lives forever.
Sion, the young actor who leaves home to follow his dreams, is played by Ioan Gwyn from Talybont, Ceredigion and Mari Beard from Aberystwyth plays the part of Sara his sister, who has stayed at home to look after their mother. They are both young professional actors who work extremely well together and manage to hold the attention of the audience throughout the performance.
Arad Goch  
web site
: www.aradgoch.org

e-mail:
Monday, October 13, 2008back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk