![]() Gyda chymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd cynulleidfaoedd Cymru yn cynnal dau gwrs hyfforddi ar gyfer pobl broffesiynol yn gweithio ym maes y celfyddydau. Mae’r cyntaf, Cynllunio Marchnata Strategol ar gyfer Rheolwyr y Celfyddydau (21 Ionawr 2009), wedi ei ddatblygu gan Gynulleidfaoedd Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad Marchnata Siartredig. Crëwyd y cwrs ar gyfer uwch reolwyr ym maes y celfyddydau a phobl broffesiynol ym maes marchnata ac â’r nod o ddarparu’r offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer y broses o lunio strategaeth farchnata a fydd yn cefnogi eu hanghenion datblygiadol. Mae’r ail gwrs, Rheoli’r Swyddfa Docynnau (3 / 4 Chwefror 2009) yn cael ei chynnal gan Beth Aplin, ymgynghorydd a hyfforddwr uchel ei pharch sy’n arbenigo ar ddarparu hyfforddiant i staff y swyddfa docynnau. Mae’r cwrs wedi ei anelu ar gyfer staff swyddfa docynnau a marchnata er mwyn meithrin swyddogaeth allweddol y swyddfa docynnau, ei pherthynas ag adrannau eraill a dod i ddeall sut y mae yn adlewyrchu amcanion y mudiad. Dywedodd, Nick Beasley, Prif Weithredwr Cynulleidfaoedd Cymru: “Mae Cynulleidfaoedd Cymru yn gwbl ymrwymedig i ddarparu’r cyfleoedd hyfforddiant gorau posib i Gymru. Rwyf wrth fy modd ein bod felly wedi medru sefydlu partneriaeth â’r Sefydliad Marchnata Siartredig a dod â Beth Aplin yn ôl i Gymru yn dilyn ei gwaith gyda ni yn gynharach eleni.” Yn ogystal, dros y misoedd nesaf, bydd Cynulleidfaoedd Cymru yn cyhoeddi cyfres o ganllawiau ar faes marchnata’r celfyddydau o’r enw Dysgu ar Alw a fydd â’r nod o gefnogi artistiaid unigol, mudiadau wedi eu gwreiddio mewn cymunedau a phobl sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes marchnata. Bydd yr adnoddau Dysgu ar Alw yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cynulleidfaoedd Cymru www.audienceswales.co.uk. |
web site: www.audienceswales.co.uk |
e-mail: |
Friday, November 7, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999