![]() Yn y Flwyddyn Newydd, bydd tîmau CCIC yn teithio ar hyd a lled Cymru yn chwilio am rai o actorion, dawnswyr, dylunwyr, rheolwyr llwyfan a thechnegwyr mwyaf talentog Cymru. Mae ffurflenni cais ar gael 'NAWR a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais wedi'u llenwi yw Dydd Llun 1 Rhagfyr 2008. Mae cyfres o glyweliadau gweithdy ar gyfer y Theatr Ieuenctid (wedi'u hanelu at bobl ifanc rhwng 16 – 21 mlwydd oed) a Gweithdai Agored i ddawnswyr ifanc (i rai 14 – 21 mlwydd oed) yn cael eu trefnu mewn lleoliadau trwy Gymru yn ystod Ionawr – Ebrill 2009. Fel rhan o fod yn aelod o ThCIC neu DGIC cynhelir cyfnod dwys o hyfforddiant ac ymarfer yn ystod yr haf, ynghyd â'r posibilrwydd o berfformiadau cyhoeddus ar raddfa fawr mewn rhai o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru. Llynedd, teithiodd y Theatr Ieuenctid i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug a'r Sherman, Caerdydd; perfformiodd DGIC 2008 yn Theatr y Peacock yn Llundain. Felly …. cysylltwch a chymrwch ran! Gellir cael gwybodaeth bellach a ffurflenni cais gan www.nyaw.co.uk neu o: CCIC, 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX (( 02920 265 006; * nyaw@nyaw.co.uk ) |
National Youth Arts Wales web site: www.nyaw.co.uk |
e-mail: nyaw@nyaw.co.uk |
Friday, November 21, 2008![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999