Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hapus i gyhoeddi taw Lucy Davies fydd Cynhyrchydd newydd y cwmni theatr iaith Saesneg, sef National Theatre of Wales (NTW).
Fe'i magwyd yn Birmingham, ond mae gan Lucy wreiddiau ym Maesteg a Sir Gaerfyrddin. Lucy yw Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Donmar Warehouse, Llundain, ar hyn o bryd, sydd wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth artistig a chyflwyno rhai o brofiadau theatrig mwyaf cofiadwy Llundain sydd wedi ennill gwobrau.
Ymhlith rolau blaenorol Lucy mae Pennaeth Stiwdio yn Theatr Genedlaethol Llundain; Pennaeth Datblygu ar gyfer Robert Fox Ltd, yn comisiynu ac yn datblygu ffilmiau nodwedd; a threuliodd bum mlynedd yn Theatr Donmar Warehouse fel Rheolwr Llenyddol, a chynhyrchydd tymor ysgrifennu newydd blynyddol.
Yn ystod ei chyfnod yn Theatr Donmar Warehouse, mae Lucy wedi cynhyrchu nifer o gynyrchiadau mawreddog fel 'Othello' a oedd yn cynnwys yr actorion Chiwetel Ejiofor, Ewan McGregor a Kelly Reilly, ac wedi llywio’r tymor presennol sy'n para blwyddyn o hyd yn y West End sy’n cynnwys Kenneth Branagh yn ‘Ivanov’, Derek Jacobi yn ‘Twelfth Night’, Jude Law yn ‘Hamlet’ a Judi Dench a Rosamund Pike yn ‘Madame De Sade’.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi'r cynigion ar gyfer datblygu NTW, a chyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2007 y byddai'n gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn sefydlu'r cwmni theatr newydd, fel rhan o ddarpariaeth well o Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Yna rhoddwyd y cyfrifoldeb i Gyngor Celfyddydau Cymru weinyddu'r gwaith o ddatblygu NTW.
Ni fydd y cwmni newydd wedi'i leoli mewn adeilad, sy'n golygu y bydd yn rhydd i gomisiynu a chreu cynyrchiadau newydd. Bydd NTW yn gweithio'n agos gyda'r seilwaith theatrig sy'n bodoli yng Nghymru i greu cynyrchiadau proffil uchel a fydd yn symud y tu hwnt i ofod y theatr draddodiadol o bryd i'w gilydd.
Bydd Lucy Davies yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Mawrth 2009 ac mae'n falch iawn o'r her newydd:
"Rydw i wrth fy modd i fod yn ymuno â'r Cyfarwyddwr Artistig, John E. McGrath, i lywio National Theatre of Wales, sydd ag uchelgeisiau gweledol, a chryn dalent, gobaith ac ewyllys da yn gefn i'r cyfan. Mae'n fraint ac yn gyfle anhygoel a phrin, a bydd yn antur gyffrous i bawb ohonom ledled Cymru a thu hwnt."
Croesawodd John E. McGrath, Cyfarwyddwr Artistig NTW a benodwyd yn ddiweddar, Lucy i'w rôl newydd:
"Mae National Theatre of Wales eisoes yn creu cynnwrf yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn falch iawn o fod wedi denu un o gynhyrchwyr mwyaf blaenllaw'r DU i ymgymryd â rôl graidd yn llwyddiant y cwmni. Mae hanes Lucy o gynhyrchu rhai o'r sioeau pwysicaf yn y DU yn ystod y blynyddoedd diweddar, a'i hanes o gefnogi ysgrifenwyr, actorion ac artistiaid eraill y theatr sy'n dod i'r amlwg, yn dweud cyfrolau. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hi wrth i NTW ddechrau ar ei thaith feiddgar, greadigol."
|