Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hwb i Ysgrifennwyr Ifainc Cymru     

Hwb i Ysgrifennwyr Ifainc Cymru Fis Hydref eleni , gwobrwywyd yr Academi Gymreig â Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan sicrhau nawdd ar gyfer datblygu Sgwadiau Sgwennu’r Ifanc – cynllun sydd eisoes wedi gwreiddio’n gryf ledled Cymru. Tros y ddegawd ddiwethaf, mae Sgwadiau Sgwennu’r Ifanc wedi mynd o nerth i nerth, a hynny trwy gydweithio llwyddiannus rhwng yr Academi ac awdurdodau lleol Cymru. Bwriad y Sgwadiau yw canfod ysgrifennwyr medrus ym mhob sir a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid ysgrifennu creadigol Cymru. Bydd aelodau’r Sgwadiau’n meddu ar ddawn ysgrifennu creadigol arbennig a’u gwaith yn addawol tros ben. Fel rheol, Prifathrawon awdurdodau lleol sy’n enwebu’r plant dawnus o blith disgyblion naw neu ddeng mlwydd oed.

Dywed Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi: “Mae’r Sgwadiau Sgwennu yn meithrin y goreuon a’u cyflwyno i’r byd ysgrifennu, a nhwythau ond yn blant ifainc. Heb os, bydd sôn am aelodau’r Sgwadiau yn y dyfodol – maent yn haeddu pob anogaeth.”

Ers cyhoeddi Dyfarniad Cwmni Disglair, sefydlwyd pum Sgwad newydd – tri yn Nhorfaen, un ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, a’r diweddaraf yng Nghastell-Nedd Port Talbot, a fydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ddechrau’r flwyddyn newydd. Mae Sgwad Pen-y-Bont wrthi’n brysur yn cyfansoddi drama gyda Katherine Chandler – awdur llwyfan a sgrîn sydd wedi gweithio yn Theatr y Sherman a gyda’r Theatr Ieuenctid. Bydd gwaith terfynol y Sgwad yn cael ei lwyfannu gan Theatr Ieuenctid Pen-y-Bont yn ystod haf 2009.

Dywed Katherine Chandler: “Mae Sgwad Sgwennu newydd Pen-y-bont yn rhoi cyfle gwych i bobl ifainc sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth. Trwy gyd-weithio gydag actorion ifainc, mae’r Sgwad wedi gweld eu gwaith yn llamu o’r papur i’r llwyfan.”

Mae tri Sgwad wedi eu sefydlu yn Nhorfaen: dau Sgwad gogyfer plant blynyddoedd 6 a 7 ac un ar gyfer plant blynyddoedd 8 i 11. Daeth Cat Weatherill - storїwraig broffesiynol ac awdur plant llwyddiannus - i arwain sesiynau cynta’r Sgwad. Bydd yr awdur Phil Carradice yn arwain y sesiynau nesaf cyn y Nadolig.

Mae’r pum Sgwad newydd hyn yn ymuno â’r rhestr hir o Sgwadiau sydd eisoes wedi eu sefydlu yn Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Dinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Torfaen, a Bro Morgannwg. Bydd Dyfarniad Cwmni Disglair CCC yn galluogi’r Academi i ddatblygu cynllun y Sgwadiau ymhellach, gan anelu at sefydlu Sgwad ym mhob awdurdod lleol erbyn diwedd 2009, yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r Academi hefyd yn bwriadu sefydlu Sgwadiau mewn ieithoedd eraill hefyd, gan gynnwys Urdu a Somali.

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu rhestr o weithgareddau uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer y Sgwadiau. Yn 2009 bydd y Sgwadiau’n cymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala a Gŵyl y Gelli Gandryll, yn cyd-weithio â Bardd Cenedlaethol Cymru Gillian Clarke ac yn gweithio gyda Mererid Hopwood fel rhan o gywaith rhyngwladol rhwng Cymru ac India (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru). Mae cylchlythyr ar gyfer aelodau’r Sgwadiau wrthi’n cael ei lunio er mwyn hybu undod rhwng y Sgwadiau, hysbysebu digwyddiadau, yn ogystal â rhannu gwybodaeth, gwaith a thechnegau dysgu.

Dyma sylwadau aelodau Sgwad Sgwennu’r Ifainc, Pen-y-bont ar fod yn aelod o sgwad:

“Mae Sgwad `Sgwennu Pen-y-bont yn grêt; ‘Dwi ishe bod y Russell T Davies nesaf!”
Tomas Morgan, 14 oed

“Doeddwn i ddim yn gwybod fod awduron proffesiynol yn cyd-weithio fel hyn â phobl ifainc. Mae’n wych cael trafod fy ngwaith gyda Kath, y tiwtor.”
Anna Underhill, 12 oed

“’Dwi ishe actio yn ogystal â `sgwennu, felly mae’n wych dysgu sut mae’r ddau arddull yn gweithio gyda’u gilydd.”
Ieuan Briers, 15 oed

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i sefydlu Sgwad Sgwennu, neu os oes gennych unrhyw ymholiad ynglŷn â’r Sgwadiau, gallwch ymweld â’n gwefan www.academi.org neu gysylltu â Elena Schmitz (Rheolwr Prosiect) elena@academi.org neu Branwen Williams (Swyddog Datblygu Prosiect) branwen@academi.org
Academi  
web site
: www.academi.org

e-mail: elena@academi.org
Tuesday, January 20, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk