Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

GALW AR AWDURON CYMRAEG!     

GALW AR AWDURON CYMRAEG! Talp o sgript mewn drôr? Syniad am ddrama? Cysylltwch hefo ni!

Yn dilyn llwyddiant Sgript Slam Cymraeg yn cael ei gynnal am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd llynedd mae Sgript Slam Cymraeg yn dychwelyd. Dros dridiau, yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau, byddwn yn cyflwyno perfformiadau sgript-mewn-llaw o naw drama dim mwy na 10 munud o hyd. Bydd panel o arbennigwyr, yn awduron a chyfarwyddwyr wrth law i roi barn ar y gwaith ond yn y pendraw y gynulleidfa fydd yn penderfynnu pa ddrama fydd yn mynd yn ei flaen i’r ffeinal.

Felly, os oes gennych chi ddrama fer (neu ddarn o ddrama) yr hoffech chi ei weld yn cael ei ddatblygu gan Sherman Cymru neu os hoffech chi roi tro ar ysgrifennu drama 10 munud o hyd cysylltwch â branwen.davies@shermancymru.co.uk neu sian.summers@shermancymru.co.uk yn Adran Lenyddol y Theatr.
Sherman Cymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail: branwen.davies@shermancymru.co.uk
Tuesday, February 17, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk