Cyhoeddwyd enwau Swyddogion Creadigol newydd National Theatre Wales heddiw |
![]() Mae Catherine Paskell yn Gyfarwyddwr o Gaerdydd sydd wedi gweithio mewn amrywiaeth o theatrau yn cynnwys the Lyric Theatre, Hammersmith, Contact Theatre, Manceinion ac yn fwy diweddar, Unity Theatre, Lerpwl. Mae Catherine yn edrych ymlaen at ei rôl newydd fel Swyddog Creadigol i National Theatre Wales: "Fel cyfarwyddwr theatr a Chymraes, rwy'n eithriadol o falch o fod yn gweithio gydag NTW i lywio cyfeiriad newydd ar gyfer datblygu theatr ledled Cymru. Rwy'n teimlo'n gyffrous i fod yn rhan annatod o greu theatr genedlaethol wirioneddol, sy'n eiddo i gynulleidfaoedd ac artistiaid Cymru, ac sy'n cael ei lywio ganddynt." Mae Mathilde López yn meddu ar brofiad rhyngwladol fel Cyfarwyddwr Theatr a Dylunydd Setiau a bu'n gweithio fel Rheolwr Llenyddiaeth, Cyfarwyddwr Preswyl a Chyd-drefnydd IFEA G_yl Ryngwladol ar gyfer artistiaid sy'n dod i'r amlwg) ar gyfer Theatre Royal Stratford East. Mae Mathilde wrth ei bodd o gael ymuno â National Theatre Wales: “Mae'n fraint i ymuno â National Theatre of Wales. Rwy'n croesawu ei amcanion uchelgeisiol a gobeithiaf y gallaf fod yn rhan o'r broses sy'n creu theatr ddeinamig sy'n diffinio ac yn cadw ei gwreiddiau, tra'n herio dulliau a chodi cwestiynau cenedlaethol a rhyngwladol." Mae'r cynigion ar gyfer datblygu NTW wedi cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a chyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2007 y byddai'n gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn sefydlu'r cwmni theatr newydd, fel rhan o ddarpariaeth well o Theatr Iaith Saesneg yng Nghymru. Yna rhoddwyd y cyfrifoldeb i Gyngor Celfyddydau Cymru weinyddu'r gwaith o ddatblygu NTW. Ni fydd y cwmni newydd wedi'i leoli mewn adeilad, sy'n golygu y bydd yn rhydd i gomisiynu a chreu cynyrchiadau newydd. Bydd NTW yn gweithio'n agos gyda'r seilwaith theatrig sy'n bodoli yng Nghymru i greu cynyrchiadau proffil uchel a fydd yn symud y tu hwnt i ofod y theatr draddodiadol o bryd i'w gilydd. Croesawodd John McGrath, Cyfarwyddwr Artistig NTW y ddwy ohonynt i'r tîm: "Roeddem am wneud ymrwymiad ar y dechrau'n deg i genhedlaeth newydd o wneuthurwyr theatr. Felly, yn dilyn y penodiadau cyntaf, sef fwy swydd innau a Lucy Davies, y cynhyrchydd, gwnaethom hysbysebu i gael dau Swyddog Creadigol i fod yn rhan o NTW o'r diwrnod cyntaf: er mwyn helpu i lywio ein gweledigaeth a datblygu'r rhaglen agoriadol o waith. "Fel cwmni sy'n bwriadu bod yn falch o Gymru a sefyll yn amlwg ar lwyfan y byd, rydym yn falch iawn o benodi Catherine Paskell a Mathilde Lopez fel ein dau swyddog creadigol cyntaf. Mae Catherine yn gyfarwyddwr Cymreig ifanc sy'n meddu ar gyfoeth o dalent ac ymrwymiad, ac rwy'n si*r y bydd yn rhan annatod o lywio'r theatr Gymreig yn ystod y degawdau nesaf. Mae Mathilde yn gyfarwyddwr a dyluniwr rhyngwladol sy'n dod i'r amlwg ac mae'n teimlo'n frwd dros Gymru a'i chreadigrwydd, ac mae'n meddu ar ddealltwriaeth greadigol o bosibiliadau digidol a rhithwir y theatr. "Penodwyd Catherine a Mathilde am gyfnod o ddwy flynedd; ac rwy'n disgwyl y bydd yr ymrwymiad hwn i artistiaid sy'n dod i'r amlwg yn parhau mewn nifer o ffyrdd, am amser hir i ddod. Bydd Catherine a Mathilde yn dechrau yn eu swyddi newydd gyda National Theatre Wales ym mis Mawrth 2009. Mwy o wybodaeth am Catherine Paskell: Enillodd Catherine MFA mewn Cyfarwyddo Theatr ym Mhrifysgol Llundain, Birkbeck a BA (Anrh) mewn Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Nottingham. Mwy o wybodaeth am Mathilde Lopez Enillodd Mathilde MFA mewn Cyfarwyddo Theatr ym Mhrifysgol Birkbeck, Llundain a BA (Anrh) mewn Dylunio Theatrar gyfer Perfformio yn Central St Martin's, Llundain. |
National Theatre of Wales web site: |
e-mail: ntw@live.co.uk |
Thursday, February 19, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999