Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Problemau pur ysol     

Awdur arall sydd yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru yw Wiliam Owen Roberts. Ei ddrama yntau, Radio Cymru, fydd y ddrama olaf - os caiff cynlluniau'r CCC eu gwireddu - yr â'r cwmni Dalier Sylw â hi ar daith.

Ddiwedd yr wythdegau tyngais ryw fath o addewid i mi fy hun y byddwn yn osgoi ysgolion undydd, penwythnosau trafod neu gyrsiau tan faneri, 'Argyfwng Erchyllaf Erioed y Theatr yng Nghymru,' neu 'Theatr Gymraeg: oes ffordd ymlaen o gwbwl?' neu 'Ydy'n bosib denu/breibio/meithrin awduron ifanc i sgwennu ar gyfer y theatr,' bla bla bla. Gorchwyl ddiflas, ddi-enaid ar y naw oedd ista'n trin a thrafod yr un hen ystrydebau gan dindroi o gwmpas yr un hen gwestiynau a'r un hen lol-mi-lol. A dyna ni. Hynny a fu. Ni fûm ar gyfyl yr un o'r digwyddiadau yma hyd nes imi ddod ddegawd yn diweddarach wyneb yn wyneb â dogfennau fel 'Ymgynghori ar Ysgrifennu Newydd yng Nghymru,' sy'n rhan o 'Strategaeth Ddrama Cyngor Celfyddydau' a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur ymghynghorol ar Ionawr 21ain, 1999.
I'r rheiny ohonoch chi sy' braidd yn ddiarth i'r maes, efallai mai buddiol fyddai imi grynhoi yn fyr y newyddion diweddara o'r ffrynt lein.
Ar Hydref 21ain, 1999 cyhoeddodd y Cyngor 'ddatganiad i'r cyfryngau' (a gwell fyddai imi ymddiheuro i'r Cyngor gan mai dim ond copi Saesneg a lwyddais i gael ohono). Yn anffodus, mae'n darllen fel a ganlyn:

'THE ARTS COUNCIL OF WALES ANNOUNCES £170,000 FOR A NEW THEATRE WRITING INITIATIVE.'

A new theatre writing initiative for Wales, committed to developing innovative drama in English and Welsh, is to be set up in June 2000.
'The setting up of a new writing initiative is an important element of the ACW's [y Cyngor] drama strategy' said Joanna Weston, Chief Executive of the ACW.
'The strategy stresses its commitment to developing innovation in the arts and opportunities for Welsh artists. We believe this initiative offers a fresh start to build on this commitment through providing a platform for new writing in English and in Welsh. This is the first time both languages have been brought together in this way.'
The new writing initiative has been developed following an unprecedented degree of support from writers in English and Welsh responding to the ACW's draft drama stategy published in January 1999.

Er bod rhyw elfen dyner o amwysedd yn ei geiriad, bwriedir gweithredu'r strategaeth uchod trwy sefydlu cwmni/canolfan newydd ddwyieithog wedi ei lleoli yn Stiwdio Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.
Er mwyn gwneud hyn mae Cwmni Dalier Sylw (Cymraeg) a Made in Wales (Saesneg) yn cael eu dileu. Ond fe'u gwahoddir, ynghyd â Chwmni Theatr y Sherman, i wneud cais i redeg y Cwmni/Ganolfan newydd.
Disgwylir y ceisiadau i mewn erbyn Rhagfyr 1af, 1999 - a bydd penderfyniad wedi ei wneud o fewn rhyw bythefnos.
A dyna ni.
Dyna'r cefndir.
Dyna eu 'gweledigaeth' nhw.
Beiddgarwch? Hyder? Her?
Ar drothwy'r Mileniwn newydd bydd yng Nghaerdydd, prifddinas y Gymry Newydd, y Gymru 'ôl-ddatganoli', y Gymru fymryn yn 'ôl-drefedigaethol', y Gymru 'ma sy'n dechrau cael ei thraed odditani o'r diwedd - a phwy a wâd nad yw theatr yn holl bwysig i unrhyw brifddinas werth ei halen? - gwmni dwyieithog blaengar yn llwyfan i awdurdon sydd isio deud eu deud...
Hip hip hwre!
Yn anffodus, nid felly fydd hi o bell bell ffordd.
I ddechrau...
Tydi'r strategaeth newydd yma ddim wedi derbyn sêl bendith awdurdon. I'r gwrthwyneb, mae protestio ffyrnig wedi bod. Rydym wedi bod yn lobïo aelodau seneddol, aelodau o'r Cynulliad, yn ysgrifennu i'r wasg, yn codi twrw ar y teledu a radio ac ym mis Medi, neilltuodd Undeb yr Ysgrifenwyr ddiwrnod cyfan i drafod y mater. Doedd neb yn hapus. Mae Cyngor y Celfyddydau yn ymwybodol o hyn ac mae datgan i'r gwrthwyneb yn beth sylfaenol ddrwg ac anonest i'w wneud.
Yn ail, tydi'r syniad o gwmni dwyieithog ddim yn un newydd. Bu cwmni cyffelyb yng Nghymru yn y saithdegau: Theatr yr Ymylon. Mae ganddom ni fel awduron nifer o bryderon ynglªn â hyn. Ar y cyfan, gwell gennym ni sy'n sgwennu yn y Gymraeg fyddai cadw i'r drefn bresennol o Gwmni Cymraeg a Chwmni Saesneg.
Ym mlwyddyn ariannol 1999-2000, mae Cwmni Dalier Sylw a Made in Wales yn derbyn nawdd o £260,000 rhyngddyn nhw i gomisiynu, perfformio a mynd â dramâu newydd ar daith. A tydi hyn ddim yn ffortiwn o bell ffordd.
Bydd y Cwmni Arfaethedig yn y Sherman yn derbyn nawdd o £170,000.
I ble diflanodd y £90,000 ar gyfer ysgrifennu newydd?
Disgwylir i'r Cwmni Arfaethedig weithredu yn ddwyieithog.
Ond o dorri'r grant bydd llai o ddramâu Cymraeg a bydd llai o ddramâu Saesneg. Bydd llai o gomisiynu. Bydd llai o waith sgwennu newydd. Bydd llai o waith i awdurdon, hen a newydd. Bydd llai o waith i actorion. Bydd llai o waith i dechnegwyr. Bydd llai o waith yn y bôn i bawb. Bydd y cwbwl yn llai cyffrous a herfeiddiol i'r gynulleidfa gan y bydd llai o ddramâu i'w gweld...
Yn y flwyddyn ariannol 1998-1999 yng Nghymru, comisiynwyd 18 o ddramâu hirion. (Ffigwr sy'n alaethus o warthus o isel).
Comisiynwyd 9 o'r rhain gan Gwmni Dalier Sylw, Made in Wales a Chwmni Theatr y Sherman.
Does dim ots faint o sbin a rydd Cyngor y Celfyddydau ar hyn, a sbin ydi o a dim byd arall, y gwir plaen amdani ydi y bydd y ddarpariaeth ysgrifennu newydd yn waeth o lawer nag y mae hi ar hyn o bryd.
Fel y nodais eisoes: bydd y Cwmni Arfaethedig yn y Sherman, o'i hanfod, yn comisiynu llai. Ar gyllid o £170,000 - be' arall gellir ei ddisgwyl mewn difri calon?
O dan y drefn sydd ohoni pan fo awdur yn derbyn comisiwn gan gwmni fel Dalier Sylw, dyweder, mae'n rhaid bod yn ymwybodol o'r cyfyngiadau cyllidol. Er enghraifft, ni ellir ysgrifennu drama hefo cast mawr. Tueddir i gyfyngu i griw bychan o ryw 4 neu 5 actor. Eithriadau prin yn unig yw dramâu hefo castiau mwy. Ond byddai amryw o sgrifenwyr wrth eu boddau yn llunio dramâu epig; a dwi'n si?r y byddai'r gynulleidfa hefyd wrth eu boddau yn eu gweld nhw. Peidiwch â disgwyl i bethau wella o dan y drefn newydd...
Yn hytrach na hanneru'r gwaith theatr newydd, fe ddylai Cyngor y Celfyddydau anelu at greu strategaeth wirionedol gyffrous; strategaeth chwyldroadol, un sy'n dyblu neu dreblu y nifer o gomisiynau. I'r perwyl hwn dylent astudio yn fanwl ddogfen ymgynghorol Roger Williams, Cadeirydd Undeb yr Ysgrifenwyr a'i argymhellion pell-gyrhaeddol a chreadigol ynglªn â dyfodol ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru...
Ond ceir argoelion y misoedd diwethaf sydd wedi 'ngwneud yn sinigaidd braidd. Troi clust fyddar wnân nhw. Mae'r agenda i waethygu'r sefyllfa eisoes ar y gweill a'r bwriad i'w gweithredu yn mynd yn ei blaen, doed a ddêl...
Ond rydw i'n dweud eto: mae'r hyn sy'n digwydd i ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yn warthus.
Does gan y Cyngor ddim oll i glochdar yn ei gylch o.
Barn  
web site
:
Menna Baines
e-mail:
Wednesday, January 5, 2000back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk