Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ai Manon yw'ch enw chi?     

Ai Manon yw'ch enw chi? I ddathlu dyfodiad Manon, cynhyrchiad llwyddiannus English National Ballet, mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig dau docyn yn rhad ac am ddim i unrhyw un o'r enw Manon.
 
Mae Manon, y ferch ddiniwed neu'r femme fatale, yn ifanc, prydferth, naf ac mewn cariad. Gyda dau ddyn yn cystadlu am ei chariad, mae Manon yn drysu mewn gwe o nwyd, cariad a balchder, a methu'n ln phenderfynu. Mae'r myfyriwr Renato des Grieux yn cynnig cariad pur, ond caiff Manon ei hudo i fywyd putain llys gan addewidion ac afradlonedd Monsieur GM. Mae trasiedi gyffrous Kenneth MacMillian yn dod Manon Lescaut, nofel Abb Prvost o 1731, yn fyw. Mae cerddoriaeth Jules Massenet yn mynd law yn llaw Manon wrth iddi weu ei ffordd drwy ddirywiad a thywyllwch Paris goleuedig yr 18fed ganrif.
 
Yn ogystal bod yn fal enwog, mae Manon hefyd yn enw poblogaidd ar ferched yma yng Nghymru. Mae'n golygu "plentyn a ddymunwyd" neu "brenhines, paragon prydferthwch". Mae'r enw hefyd yn boblogaidd yn Ffrainc, lle mae'n lleihad o'r enw Marie sy'n ffurf ar Mary, sy'n golygu chwerw neu chwerwedd.
 
Mae sawl Manon enwog yng Nghymru:
• Manon Eames, y dramodydd, awdur ac actor
• Manon Williams, chwaer Ffion Hague a Dirprwy Ysgrifennydd Preifat Tywysog Cymru yn Nh Clarence
• Manon Rhys, yr ysgrifennydd sgriptiau a'r nofelydd
• Manon Jenkins, prif gymeriad The Rowan Tree, gan y nofelydd Iris Gower.
 
Mae sawl Manon nodedig arall gan gynnwys:
         Manon Des Sources, ffilm a enwebwyd am Bafta ym 1986.
         Manon, yr opera gan Jules Massenet, sydd hefyd wedi'i seilio ar lyfr Prvost.
         Manon Lescaut, yr opera gan Giacomo Puccini, sydd hefyd wedi'i seilio ar lyfr Prvost.
         Manon Rhaume, gl geidwad hoci ia o Ganada a Medalydd Arian yn y Gemau Olympaidd.
 
Os mai Manon yw eich enw chi a hoffech weld y perfformiad, gallwch gael tocynnau'n rhad ac am ddim drwy ffonio 08700 40 2000 ac yn ddefnyddio'r cd 1825. Efallai y gofynnir i chi ddangos prawf mae eich enw yw Manon.
 
Mae dyfodiad Manon i Ganolfan Mileniwm Cymru yn gyfle prin i weld gwaith sydd heb ei berfformio y tu allan i Lundain ers 20 mlynedd, a'r tro cyntaf iddo gael ei berfformio gan English National Ballet. Crwyd y cynhyrchiad ar gyfer y Royal Ballet gan Kenneth MacMillan ym 1974 ac mae'r prif rannau cyffrous wedi denu dawnswyr o bedwar ban byd. Fodd bynnag, cafodd y bal ei gyfyngu i Lundain a'r Royal Ballet gan delerau ystd Kenneth MacMillan tan yn ddiweddar. Mae'r cyfle i weld y gwaith hwn yn cael ei berfformio gan 67 o ddawnswyr rhyngwladol English National Ballet yng Nghaerdydd yn bwysig iawn i bobl sydd diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol ac opera.
 
''no danger of Manon-fatigue, thanks to English National Ballet's entirely fresh
approach'stylish monochrome colour scheme, tinged with crimson and cobalt like
a hand-tinted engraving' ' The Sunday Telegraph
 
''an epic work of art that was simply stunning.' ' The Sunday Express
 
'Agnes Oaks'gave the performance of her life as a heedless, Bardot-like babe,only half-aware of the potency of her charm. Every glance, every step was in the service of the character'Technique undiminished, dramatic powers nearing their peak, Oaks is entering a golden phase in her career'.she can exit on this deliciously dirty high.'
The Sunday Telegraph ar Agnes Oaks fel Manon
 
Mae dyddiadau Caerdydd hefyd ymysg y cyfleoedd olaf i weld Agnes Oaks a Thomas Edur yn perfformio. Mae'r ddau yn briod ac yn chwarae rhan Manon a Des Grieux a chawsant eu disgrifio gan The Sunday Telegraph fel "one of the great ballet partnerships". Ar l dyddiadau Caerdydd, byddant yn perfformio Manon unwaith eto ym Modena, gyda pherfformiad o Les Sylphides yn Eglwys Gadeiriol St Paul i ddilyn ar 30 Mehefin, cyn iddynt ymddeol o'r cwmni.
 
Mae Agnes eisiau canolbwyntio ar ddechrau teulu, a bydd Thomas yn dechrau swydd fel Cyfarwyddwr Artistig Bal Opera Cenedlaethol Estonia, sef mamwlad y ddau. Mae'r ddau wedi dawnsio gyda'i gilydd ers 20 mlynedd bron, gydag 19 o'r rheini yn English National Ballet, lle ymunasant gyntaf pan oeddent newydd briodi.
 
Caiff Manon ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, o 29 Ebrill i 2 Mai am 7.30pm ac am 2pm ar 30 Ebrill. Bydd tocynnau'n costio rhwng £10 a £35. I archebu tocynnau, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 08700 40 2000 neu archebwch ar-lein yn www.wmc.org.uk
wales millennium centre  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Thursday, April 2, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk