![]() “’Roedd y plant wedi wirioneddol fwynhau’r perfformiad, ac wedi deall heb sylweddoli-‘roeddynt yn cael gymaint o hwyl yn gwylio’r dawnswyr” Ysgol Gynradd Bodedern, Ynys Môn “Perfformiad gwych. Neges wedi ei wau’n glyfar trwy’r perfformiad. Cynhyrchiad a symudiadau graenus. Ysgol Graig Y Dôn, Llandudno. “Perfformiad arbennig o dda. Braf oedd gweld cyfrwng fel hyn trwy gyfrwng y Gymraeg”. Ysgol Glan Morfa Conwy “Diolch yn fawr iawn. Mae’n amlwg bod llawer o waith meddwl a chynllunio tu ôl i’r cynhyrchiad. Profiad arbennig iawn i bawb”. Ysgol Bro Tegid Y Bala Dawns i Bawb yw’r sefydliad ambarel ar gyfer dawns yn y gymuned yng Ngogledd Orllewin Cymru ac yn gweithredu yn y dair sir, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Mae Dawns i Bawb yn gweithio gyda phobl leol, gydag ymarferwyr dawns amatur a phroffesiynol a chyda choreograffwyr i hybu dawns yn yr ardal. Créd Dawns i Bawb y gall pawb ddawnsio ac mae’n gweithio gyda phobl o bob oedran a gallu. Mae Dawns i Bawb wedi creu y prosiect cynhyrfus yma gan ddefnyddio cyfrwng grymus dawns i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion amgylcheddol. Cynhyrchiad dawns/theatr yw “Prosiect yr Amgylchedd” ar y thema Lleihau, Trwsio, Ail ddefnyddio, Ailgylchu a’r effaith mae’r ewid yn yr hinsawdd yn gael ar ein cartref sef y Ddaear. Dilynwn daith Mr Llygoden a’r Ceidwad ar eu cwest i gael hyd i Mrs Llygoden Fawr sydd wedi ei chludo ymaith mewn llif. Mae’r cymeriadau yn teithio’r byd ar beiriant hudol yn cyfarfod anifeiliaid eraill sydd yn eu cynorthwyo i ddysgu mwy am eu byd a’r effaith mae gormod o sbwriel yn gael ar ein cartrefi. Yn dilyn sioe Y Ceidwad a’r Llygoden Fawr mae gweithdy a bwriad y gweithdy yw ysbrydoli’r plant i roi ar waith yr hyn maent wedi ei ddysgu yn y sioe yn eu bywydau eu hunain. Trwy ddawns a theatr byddwn yn archwilio achos ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r hyn y medrwn wneud er lles. Meddai Karine Decorne Cyfarwyddwr Dawns i Bawb. “Comisiynwyd 5 artist i greu sioe wedi ei hanelu at blant ysgolion cynradd rhwng 7 ac 11 oed. Bwriedwn ddefnyddio’r hyn y gwyddom orau amdano; gweithio gyda pobl ifanc a dawns i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r ddaear yn cynhesu ac yr angen am newid ein harferion i fyw mewn ffordd fwy cynaladwy. Cysylltu pobl gyda natur gan cynorthwyo i hyrwyddo Cefn Gwlad Cymru. Gwerthfawrogi harddwch a phwysigrwydd diogelu’r amgylchfyd naturiol a bywyd gwyllt gan hyrwyddo ffordd iachach o fyw”. Am ragor o wybodaeth am y cynhyrchiad “Prosiect yr Amgylchedd” cysylltwch gyda Dawns i Bawb post@dawnsibawb.org neu 01286 685220 |
Dawns i Bawb web site: www.dawnsibawb.org |
e-mail: post@dawnsibawb.org |
Wednesday, April 15, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999