Gweinidog Treftadaeth yn canmol sector y celfyddydau ond yn eu rhybuddio o’r sialensiau sydd o’u blaen
|
Defnyddiodd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones ei araith gerbron cynhadledd flynyddol y Cyngor Celfyddydau yn y Barri i ddweud, er fod y sector yn wynebu amser caled, mae gan y celfyddydau rôl bwysig i chwarae, nid yn unig drwy godi ysbryd pobl ond hefyd drwy helpu’r cyhoedd i ddeall y byd o’u cwmpas.
Meddai’r Gweinidog: ”Nid wyf wedi dod yma heddiw i ddweud wrthych bod y celfyddydau yn ddiogel rhag y sefyllfa economaidd bydol. Ond rydw i hefyd eisiau cyfleu ichi bwysigrwydd allweddol y celfyddydau ar adeg o’r fath. Dyma’r adeg i chi yng nghymuned gelfyddydol Cymru i fod yn holi cwestiynau anodd i chi’ch hunain. Cwestiynau ynghylch y cyfrifoldeb sydd gennych i helpu cymunedau mewn amrywiol ffyrdd.
“Rwy’n dod yma yn llawn balchder am yr hyn y mae’r celfyddydau yng Nghymru wedi llwyddo ei gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf. O’m cwmpas, rwy’n gweld sefydliadau celfyddydol llawn uchelgais a dychymyg sy’n gwneud gwaith ardderchog bob un diwrnod o’r flwyddyn.”
“Mae’r diwydiannau creadigol ehangach yn Nghymru werth dipyn mwy nag un biliwn o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru. Mae’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol yn sbardun i’n heconomi mewn ffyrdd eraill hefyd.
“Mae rhai elfennau o’r diwydiannau creadigol yn atyniadau mawr, sy’n rhoi hwb i dwristiaeth a phopeth y maen hynny’n ei olygu. Maent hefyd yn helpu i roi Cymru ar y map, gan godi ei phroffil ym mhedwar ban byd.”
Gan gyfeirio at ariannu, meddai’r Gweinidog: “Rydw i angen i’r arbenigwyr ar y celfyddydau ddweud wrtha i pam bod pob punt yn bwysig, a beth y gall pob punt ei gyflawni. Dydw i ddim yn disgwyl i unrhyw un gymryd yn ganiataol y byddant yn cael eu cyllido. Rydw i wedi gofyn i Gyngor y Celfyddydau gynnal adolygiad trylwyr o’i fodelau cyllido, ac mae arnaf ofn y bydd rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled yn sgil hynny. Gallai hyn yn hawdd olygu y bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar nifer llai o sefydliadau. Yr her fydd sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o adnoddau i gyflawni eu potensial ac chael effaith.”
Defnyddiodd y Gweinidog ei araith hefyd i ganmol y gwaith sy’n cael ei wneud i hybu’r celfyddydau yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol, ynghyd â chanmol y gwaith sydd yn mynd rhagddo i ehangu mynediad i’r celfyddydau a chanmol gwaith gwirfoddolwyr yn y sector. Fe wnaeth e hefyd amlinellu sut mae’r celfyddydau yn gallu creu dolen gyswllt gyda meysydd iechyd ag addysg. |
Llywodraeth Cynulliad Cymru
web site: |
e-mail: |
Friday, May 1, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999