Walking the dead dog!
|
Mae Cwmni Theatr Volcano wrthi unwaith eto! Credwn y gall pethau hynod ddigwydd gyda’r cyfuniad cywir o’r bobl gywir. Mewn ymgais i wneud yr annisgwyl i ddigwydd yn Abertawe a Chasnewydd, mae Volcano wedi uno ag un o enillwyr Dyfarniadau Cymru Greadigol 2009, Marega Palser, sy’n un hanner o’r ddeuawd berfformio swrrealaidd; Mr a Mrs Clark.
Yn parhau â’r gyfres arbrofol Unknown Pleasures, a gyflwynodd Threshold gyda Marc Rees y llynedd, mae Volcano wedi rhoi Mr & Mrs Clark wrth lyw'r offrwm diweddaraf - Walk the Dead Dog.
Mae Mr a Mrs Clark wedi bod yn creu gwaith cymeradwy o gwmpas de Cymru a thu hwnt ers bron i ddegawd ac am y mis diwethaf mae’r cwpl wedi bod yn gweithio gyda phum myfyriwr sydd yn eu blwyddyn olaf ar Gwrs y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe i greu Walk the Dead Dog.
Mae Walk the Dead Dog yn archwilio’r arfer o gelf “allanolwr”, neu’r teimlad o fod ar y tu allan yn edrych i mewn. Mae’n berfformiad ac yn arddangosfa o greadigrwydd - ffrwydrad o syniadau newydd a chyfuniad o steiliau perfformio a choreograffi gwahanol. Mae Mr a Mrs Clark wedi creu cyfnewidfa; rydych chi’n dod i’r theatr â rheswm yn eich pen, ac yn gadael wedi’ch swyno. Rydych chi’n mynd i mewn i’r theatr wedi’ch goresgyn gan bryderon heddiw a gofidion yfory, ac yn gadael - eich traed yn tapio i guriad, ddim yn si_r lle parcioch chi’r car!
Bydd Walk the Dead Dog yn perfformio yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, ar 28 a 29 Mai, a’r Riverfront, Casnewydd, ar 30 Mai 2009.
Mae’r gyfres Unknown Pleasures yn gydweithrediad cwbl unigryw rhwng Cwmni Theatr Volcano, Canolfan Celfyddydau Taliesin a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Nod y prosiect yw creu lle ar gyfer arbrofi a risg mewn perfformio a chynnig cyfleoedd i artistiaid sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru. Meddai Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Volcano, Fern Smith,
“Mae ysbryd blaengaredd a chydweithredu bob amser wedi bod wrth galon gwaith Volcano. Yn Unknown Pleasures yn mae cyfuniadau newydd o berfformwyr, artistiaid a dylunwyr yn dod ynghyd i ailddiffinio a mynd i’r afael â dulliau dibynadwy o greu theatr. Mae Unknown Pleasures yn feiddgar yn ystyr fwyaf gwir y gair. Mae’n le bach yn theatr Cymru ble gall radicaliaeth a risg gael eu dathlu. Mae gan y Cymry hanes hir a balch o wrthwynebiad a gwrthsafiad mewn llenyddiaeth, iaith, diwylliant a hanes. Mae gwreiddiau Unknown Pleasures yn nwfn yng ngwreiddiau traddodiad mawr ‘yr allanolwr’.”
Yn ystod y prosiect Unknown Pleasures mae myfyrwyr dethol yn cael eu dewis i gael y cyfle i gydweithio â pherfformwyr, cyfarwyddwyr a dylunwyr proffesiynol - gan greu perfformiad sy’n cael ei gyflwyno ar y llwyfan cyhoeddus. Mae myfyrwyr a gymrodd rhan yn y gorffennol yn Unknown Pleasures #1 Threshold wedi symud ymlaen i gyflawni gwaith proffesiynol pellach yn y celfyddydau perfformio.
|
web site: |
e-mail: |
Monday, May 18, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999