Ceisio'i Bywyd Hi
|
Gan Martin Crimp
Cyfieithiad Owen Martell o Attempts on Her Life
Cast: Catherine Ayers, Claire Hingott, Aled Pedrick, Meilyr Sion
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cynllunydd: Gerald Tyler
Goleuo a Delweddau Fideo: John Collingswood
Sain a Cherddoriaeth: Acid Casuals
“Ann. Wyt ti yna? Gwranda. Beth am hyn, beth os, beth os taw, beth am inni ddweud bod, beth tasen ni’n dweud...”
Daw criw amryfal o gymeriadau ynghyd i greu stori....i geisio gwraig ddychmygol; gwraig fydd yn eu diffinio a’u herio, eu caru a’u cythruddo. Ceir o ganlyniad chwedl fodern - comedi drasig ar gyfer ein hoes. O drachwant materol i hunanaberth diamod, o ryw anniogel i ffwndamentaliaeth grefyddol, ceir yma ddarlun gogleisiol o fyd yn llawn ofn, dieithrwch ac alltudiaeth a phortread ingol o obsesiynau cyfoes.
Ers ei chyflwyno gyntaf yn 1997, mae’r ddrama ysgytwol hon wedi’i chyfieithu i ragor nag ugain o ieithoedd. Mewn cynhyrchiad aml-gyfrwng, beiddgar, gyda cherddoriaeth fyw gan Acid Casuals, daw Owen Martell (enillydd Llyfr y Flwyddyn 2001) â’r clasur cyfoes hwn i gynulleidfa Gymraeg. O wneud hynny, mae’n ein gorfodi i ystyried cyd-destun rhyngwladol ein diwylliant ac yn ein llusgo o gynefin cyfarwydd gwleidyddiaeth iaith, y meysydd chwarae ac eisteddfod i fyd gerwin pornograffi, puro ethnig a therfysgaeth ryngwladol.
“’Sdim pwynt cuddio, Ann. Ni’n gwbod lle ti’n byw.
Ti’n mynd i ddifaru i ti gael dy eni.”
Yn cynnwys iaith gref.
Perfformir y sioe yma yn Neuadd Buddug, Y Bala
Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Sherman:
029 2064 6900
ac o Siop Awen Meirion:
25 Stryd Fawr, Y Bala / 01678 520658 |
web site: |
e-mail: |
Friday, July 24, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999