Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Migrations a Dawns i Bawb yn cyflwyno LOCATOR 20 gyda Simon Whitehead     

Migrations a Dawns i Bawb yn cyflwyno LOCATOR 20 gyda Simon Whitehead Yn Medi 07 gwahoddwyd Simon Whitehead i arwain preswyliad artistiaid LOCATOR yn Rowen, Conwy. Yn ystod y 5 diwrnod creuwyd berfformiadau a dawnsfeydd oedd yn ymateb i’r amgylchfyd naturiol. ‘Roedd y canlyniad mor ysgogol fe ysbrydolwyd y curadur Karine Décorne i fynd a’r preswyliad arbennig yma gam ymhellach trwy wahodd grwp o artistiaid dewisiedig sydd yn gweithio yn y byd dawns a symudiad, celf gweledol a sain i weithio gyda Simon Whitehead eto i greu gwaith i’w berfformio i’r cyhoedd.

Yn Medi 09 mae Dawns i Bawb a Migrations yn cyflwyno ar y cyd breswyliad dwys o’r enw LOCATOR 20. Ond y tro hwn yn derfyn i’r preswyliad hwnnw bydd y gwaith a greuwyd yn cael ei berfformio yn fyw i gynulleidfa. Bydd y breswyliad yn cael ei arwain eto gan Simon Whitehead artist amgylcheddol sydd yn deillio o Gymru. Mae gwaith Simon Whithead a’i wreiddiau yng Ngogledd Cymru a gwna ddefnydd o’r amgylchedd naturiol a’i thirwedd i ysbrydoli ffynhonnellau i greu gwaith artistig drwy symudiad a pherfformiad. Dechreuodd ei daith ar arfordir hardd Pen Llŷn ond mae erbyn hyn yn byw yn nghefn gwlad Canolbarth Cymru ac wedi cario ymlaen gyda’i waith ymchwil a’i yrfa. Mae yn artist symudiad Cymreig uchel ei barch yn genedlaethol a rhyngwladol.

Bydd y breswyliad yn cynnwys 6 artist lleol, hanesydd a 2 o artistiaid dawns rhyngwladol. Gyda’u gilydd byddant yn creu gwaith cyffrous drwy gyfrwng dawns, cerddoriaeth newydd, perfformiad, celf gweledol a’r gair llafar fydd yn ymateb ac yn porthi’r amgylchfyd hardd a’i hanes o gwmpas pentref Rowen, Conwy.

Mae’r artistiaid lleol wedi eu dewis yn ofalus am eu talent, gwybodaeth ac ymrwymiad i’r ardal fydd yn atseinio eu hymarfer trwy waith Simon Whitehead. Daeth yr artistiaid rhyngwladol Mustafa Kaplan a Filiz Sizanli i Ogledd Cymru am y tro cyntaf yn rhan o agoriad cyfres 1af o ddigwyddiadau Migrations yn Oriel Mostyn, Llandudno. Mae llawer un ers hynny wedi gofyn pryd oedd y ddau yn dychwelyd yma i berfformio. Yn ystod eu hymweliad ‘roedd y ddau wedi eu syfrdannu gymaint gan harddwch y tirluniau fe’i hysbrydolwyd i greu gwaith yn arbennig amdanynt.

Yn yr hinsawdd economig ohonni rydym ni yn credu fod gan y Celfyddydau ran allweddol i chwarae. I ysbrydoli, i ddyfeisio, a dangos ffyrdd a phosibiliadau gwahanol, yn ogystal â dod a ni yn ôl at bethau mwy sylfaenol. Mae’n amser i ail gyffwrdd â natur ac ail-ddarganfod ymdeimlad gyda llefydd, cymunedau a diwylliant. Mae’n fraint cael byw mewn ardal o brydferthwch naturiol. Ac mae byd natur yn gallu cyfrannu llawer os y byddwn yn ei pharchu.

Dyma brosiect uchelgeisiol fydd yn cynnig rhywbeth dra gwahanol i gynulleidfa. Taith gerdded dywysiedig drwy dirwedd hardd, naturiol Rowen yng Nghonwy yn ogystal ã pherfformiadau byw gan 8 o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol. Dyma gyfle i gynulleidfa weld ffrwyth llafur preswyliad artistiaid yn Rowen. Cyfle i weld gwaith o’r newydd trwy gyfrwng cerddoriaeth, dawns, celf gweledol a geiriau fydd yn ymateb ac yn porthi’r amgylchfyd leol a’i hanes.

Âm fanylion pellach cysylltwch gyda iwan@datrys.org neu 01492 642291 www.migrations.ws
 
web site
: www.migrations.ws

e-mail:
Friday, August 14, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk