Canrif / Century ~ perfformiad cyntaf erioed a thaith genedlaethol ~
|
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn barod i gyflwyno drama newydd sbon i gynulleidfaoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug a Sherman Cymru yng Nghaerdydd, gyda deg perfformiad cyhoeddus mewn wyth niwrnod yn unig!
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Canrif / Century yn ganlyniad misoedd o waith ymchwil ac ysgrifennu gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames. Yr ail mewn cyfres o dri darn o waith, mae Canrif / Century yn tynnu ar etifeddiaeth hanesyddol diweddar Cymru - yn wahanol i gynhyrchiad hynod boblogaidd a llwyddiannus ThCIC y llynedd, Mythau Mawreddog y Mabinogi, oedd yn canolbwyntio ar ein gorffennol mytholegol. O olygfa agoriadol sy’n darlunio esblygiad teithiwr drwy amser sy’n gywerth â gwib-ganlyn - o fwnci i Ddyn ar amrantiad llygaid - mae cynhyrchiad eleni yn edrych ar rai o ddigwyddiadau tyngedfennol y ganrif ddiwethaf sydd wedi llunio a ffurfio’r byd, a’r Gymru, rydym ni bellach yn byw ynddynt.
Drama emosiynol i fyny ac i lawr yw Canrif / Century sy’n cyfuno testun â cherddoriaeth, symudiad, ffotograffau archifau a darnau o ffilm. Mae aelodau o’r cast yn chwarae rhannau dirifedi sy’n amrywio o fwncïod i Maggie Thatcher (pedwar ohonynt!), ac yn cynnwys swffragetiaid, milwyr a streicwyr, a’r hyn oedd yn plagio rhieni yn y 1950au - pobl ifanc yn eu harddegau! Mae Cyfarwyddwyr Cerdd ThCIC, Dyfan Jones a Greg Palmer, wedi cyfansoddi cerddoriaeth a chaneuon yn arddull pob cyfnod, a chafodd y tîm cynllunio yr her o wisgo’r Cwmni i adlewyrchu’r newidiadau enfawr rhwng y 1900au a’r 1960au.
Heb ddatgelu gormod am y plot, mae’r gynulleidfa’n gweld hanes yn datblygu trwy fywydau Dai a Myfanwy - neu o leiaf bedair cenhedlaeth o’r enw Dai a Myfanwy. Mae eu storïau unigol yn llawn hiwmor, tynnu coes ac ysbryd hynod - yn aml iawn yn wyneb trallod torcalonnus.
Mae aelodau’r Theatr Ieuenctid rhwng 16 – 21 oed ac yn dod o bob rhan o Gymru. Cafodd dros 300 o bobl ifanc eu clyweld ar gyfer ThCIC 2009. Rheolir y Theatr Ieuenctid gan CBAC ar ran 22 awdurdod unedol Cymru.
|
web site: |
e-mail: |
Thursday, September 3, 2009 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999