![]() Fel rhan o’r prosiect Locator 20 bydd yr artist amgylcheddol Tim Pugh yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Rowen, Conwy. Mae Tim Pugh yn cael ei adnabod fel artist amgylcheddol gan ei fod yn creu cerflunwaith mewn amryw o fannau o gwmpas y wlad. Mannau fel coetir, traethau a glannau afonydd gan ddefnyddio deunyddiau fel brigau, cerrig, dail neu gregyn. Mae’n gweithio gyda lliwiau a gweadwaith naturiol sydd i’w weld yn yr amgylchfyd gyfagos. Bwriad y gweithdy fydd dathlu y tirlun arbennig o hardd sydd o gwmpas ardal Rowen gan gynyddu gwerthfawrogiad plant ysgol o gefn gwlad Cymru. Mae Locator 20 yn brosiect uchelgeisiol fydd yn cynnig rhywbeth dra gwahanol i gynulleidfa. Taith gerdded dywysiedig drwy dirwedd hardd, naturiol Rowen yng Nghonwy yn ogystal ã pherfformiadau byw gan 8 o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol. Dyma gyfle i gynulleidfa weld ffrwyth llafur preswyliad artistiaid yn Rowen. Cyfle i weld gwaith o’r newydd trwy gyfrwng cerddoriaeth, dawns, celf gweledol a geiriau fydd yn ymateb ac yn porthi’r amgylchfyd leol a’i hanes. LOCATOR 20 gyda Simon Whitehead Perfformiadau Byw yn yn Tirlun Sadwrn 12 Medi 2pm yn cychwyn o Neuadd Gymunedol Rowen, Conwy Tocynnau ar gael o flaen llaw yn unig:- £8.50, gostyngiadau £6 yn cynnwys lluniaeth Migrations, 25 Watling Street, Llanrwst, LL26 0LS 01492 642291 Galeri Caernarfon, Victoria Doc, Caernarfon, LL55 1SQ - 01286 685222 Âm fanylion pellach cysylltwch gyda iwan@datrys.org neu 01492 642291 www.migrations.ws |
web site: www.migrations.ws |
e-mail: |
Monday, September 7, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999