Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cymraes yn dychwelyd at ei gwreiddiau i greu.     

Cymraes yn dychwelyd at ei gwreiddiau i greu. Mae gwaith Ceri Rimmer wedi golygu nad ydi wedi treulio llawer o amser yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ond yr wythnos yma mae prosiect yn ei dennu yn agosach at ardal ei phlentyndod.

Mae Ceri wedi cael ei dewis i fod yn yn rhan o Locator 20 sef y preswyliad artistiad sydd yn cael ei gynnal yn Rowen yr wythnos yma. Mae’r preswyliad yn brosiect yn cael ei arwain gan Simon Whitehead, ac fe fydd yn cynnig rhywbeth dra gwahanol i gynulleidfa. Ar ddiwedd yr wythnos o breswyliad dwys bydd cyfle i gynulledifa gael ei tywys ar daith gerdded drwy dirwedd hardd, naturiol Rowen, Conwy a chael gweld 8 o artistiad cenedlaethol a rhyngwladol yn perfformio yn y tirlun.

Mae Ceri yn edrych ymlaen i fod yn rhan o Locator 20 gyda Simon Whitehead a 7 artist arall. ‘Rwyf yn wastad yn cael fy rhyfeddu sut mae lleoliadau, iaith, pobl ac atgofion yn effeithio ar greadigedd” meddai Ceri.

Mae Ceri Rimmer yn gyfarwydd i blant a phobl ifanc Gwynedd drwy ei dosbarthiadau dawns wythnosol yn Galeri Caernarfon, Canolfan Glaslyn a Chanolfan Thomas Telford Porthaethwy ac hefyd drwy ei hymweliadau cyson yn yr ysgolion. Mae Ceri yn gweithio gyda Dawns i Bawb yng Nghaernarfon fel Ymarfeydd Datblygu Dawns Gwynedd. Mae Ceri wedi teithio llawer gyda’i gwaith ond mae ei magwraeth yn Llangernyw yn dal i gadw ei chysylltiadau tuag at Gymru a’r iaith.

Astudiodd ei chrefft o ddawns ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl ac yno dechreuodd berfformio gyda “Cynefin”, cwmni theatr Labyrinth sydd yn canolbwyntio ar brofiadau synhwyrol. Golyga hyn fod y cwmni yn creu digwyddiadau theatrig trwy ddefnydd o’r synhwyrau gweld, clywed, anadlu, cyffwrdd, blasu. Mae ei phrofiad gyda “Cynefin” wedi rhoi dealldwriaeth i’r ddawnswraig ifanc o gysylltu a rhyngweithio gyda aelodau o’r gynulleidfa o fewn yr amgylchfyd naturiol.

Yn ddiweddar mae Ceri wedi mwynhau gweithio gyda thechneg o Glownio ac mae wedi creu perfformiad o gerdded gyda Theatr Refresh. Mae’r sioe yma yn creu effaith weledol syfrdannol gan ei bod mewn gwisg ac yn cario blodyn 6 troedfedd o gwmpas! Mae’n apelio at bob math o gynulleidfa yn enwedig plant gan fod yna sgiliau acrobataidd yn cymeryd lle sydd heb os nac onibai yn syfrdannu torf. Mae gan Ceri hefyd gariad at rhywbeth arall hefyd sef rhedeg ei cwmni dillad o’r enw Cherry Head sydd yn creu gwisgoedd ar gyfer pob achlysur ac hefyd mwclis a breichledau sydd yn cael ei brodio gyda les, sidan a mwclis.

LOCATOR 20 gyda Simon Whitehead Perfformiadau Byw yn yn Tirlun
Sadwrn 12 Medi 2pm yn cychwyn o Neuadd Gymunedol Rowen, Conwy
Tocynnau ar gael o flaen llaw yn unig:- £8.50, gostyngiadau £6 yn cynnwys lluniaeth
Migrations, 25 Watling Street, Llanrwst, LL26 0LS 01492 642291 neu Galeri Caernarfon, Victoria Doc, Caernarfon, LL55 1SQ - 01286 685222
 
web site
:

e-mail:
Tuesday, September 8, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk