![]() Dydd Mercher, 23 Medi – Dydd Iau, 1 Hydref Peidiwch â cholli’r cyfle prin hwn i weld y casgliad ehangaf a mwyaf cynhwysfawr o ddeunydd am waith Jerzy Grotowski a ddangoswyd i’r cyhoedd erioed. Nod yr arddangosfa hon yw dwyn i gof y bwrlwm a fu’n ysbrydoli perfformiadau cwmni Jerzy Grotowski o’r cychwyn cyntaf yn y 1950au i’r 1980au, gan gynnwys cyfnod ei gynyrchiadau a’r datblygiadau wedyn yn ystod adeg y ‘Paratheatr’ (yn y 1970au) a’r tu hwnt, gan ganolbwyntio hefyd ar ‘Theatr y Ffynonellau’ a’r cysylltiadau â diwylliant Indiaidd. Mae’r arddangosfa yn ail-greu set The Constant Prince, wedi’i hadeiladu â’r deunydd gwreiddiol, gyda’r gwisgoedd a’r propiau gwreiddiol, a rhannau o set wreiddiol a phropiau gwreiddiol Akropolis. Mae’n cynnwys mwy o ddeunydd: posteri, lluniau, dyluniadau, a ffilmiau a fideos. Mae adran arbennig, wedi’i chomisiynu i’r arddangosfa, yn cyflwyno lluniau newydd gan y ffotograffydd Francesco Galli yn dangos lleoedd a phrif gymeriadau Theatr y Ffynonellau. Lleoliad: Stiwdio 1, Adeilad Parry-Williams, Campws Penglais, Aberystwyth SY23 Pris: am Ddim Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan: Ffôn - (0)1970 622133 / ebost - cprwww@aber.ac.uk / gwe- www.thecpr.org.uk |
Canolfan Ymchwil i Berfformio web site: cprwww@aber.ac.uk |
e-mail: cprwww@aber.ac.uk |
Wednesday, September 16, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999