Cwmni Theatr 3D yn dychwelyd gyda chyfres newydd o ddramau cyffrous |
![]() Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei gynhyrchiad, ‘Zufall’, y llynedd, penderfynodd y cwmni i ddilyn yr un fformat uchelgeisiol gan gynnal cynhyrchiad dwyieithog dros bedair noson rhwng Tachwedd 3 a Tachwedd 6 2009. Bydd y dramau Cymraeg eu hiaith yn cael eu cyflwyno dros y ddwy noson gyntaf gyda’r dramau Saesneg yn dilyn dros y ddwy noson olaf. Cefnogwyd y cynhyrchiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r tro hwn, mae Cwmni Theatr 3D yn edrych ar y cysyniad, o ‘Angylion’ a themau oesol fel angylion gwarcheidiol, bywyd a marwolaeth, nefoedd ac uffern ac angylion syrthiedig. Unwaith eto mae’r cwmni wedi bod yn cydweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o ysgrifennwyr talentog Cymreig i gynhyrchu dramau byrion sy’n adlewyrchu’r themau hyn. A gydag actorion adnabyddus ac ymryddawn fel Yoland Williams ac Ieuan Rhys yn cymryd rhan yn ‘Angel’, mae yna rywbeth at ddant pawb. Enillodd y ddrama gomedi dywyll, ‘Ieuan Bythwyrdd’ gan awdur 'Ffreshars' , Joanna Davies, wobr y ddrama fer Gymreig orau gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn gynharach eleni. Mae’r ddrama yn adrodd hanes angel gwarcheidiol beryglus a’i hobsesiwn am angel pen-ffordd golygus sy'n ei gwthio i'r eithaf. Tra bod ‘Sawl yn Syrthio’, gan yr actor Glenn Jones, a berfformiwyd gan Gwmni Theatr 3D yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009, yn edrych ar y ffyrdd annisgwyl gall bedwar cymeriad syrthio oddi ar eu hechel. Mae elfen swreal gref i ddrama Chantal Lee-Gan, ‘My Friend Death’, lle mae ymweliad o Angau ei hun yn arwain at gyfeillgarwch annhebygol. Yn parhau gyda’r thema paranormal, mae ‘Black Ice’, drama newydd gan awdur ‘Richard Parker’, Owen Thomas, yn archwilio beth sy’n digwydd pan mae pobl yn cyfarfod ar hap a phwysigrwydd cacennau sych! Mae yna gacennau hefyd yn ymddangos yn ‘Sponge for the Ducks’ gan Alastair Sill. Dyma stori am berthynas un dyn gyda’i angel; angel sydd â hoffter am ddynion aeddfed, tê Earl Grey a chacen Battenberg! Ysgrifennwyd ‘Heb Fwg Heb Dân’ gan y cynhyrchydd teledu, Dafydd Llewelyn ac mae’n archwilio safbwyntiau gwahanol gymeriadau wrth iddyn nhw wynebu eu diwedd mewn stori dywyll afreal am gariad coll. Mae Hannah Wynn Jones, cyd-gynhyrchydd, yn esbonio pam fod ‘Angel’ yn gynhyrchiad mwy uchelgeisiol na Zufall hyd yn oed: “Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i fedru cydweithio ar y cynhyrchiad gyda’r artist a’r dylunydd gwych, Kim Fielding, o tactileBOSCH. Mae wedi’n hannog ni i wthio’r ffiniau gyda’n set a’n dyluniad llwyfan. ‘Rydyn ni hefyd yn cyfuno gwaith ffilm arbennig gyda’r perfformiadau byw ac fe fydd yna ambell i sypreis arall i’r gynulleidfa ar y noson!” Sefydlwyd Cwmni Theatr 3D yn 2003 ym Mhrifysgol Aberystwyth gan dair merch ifanc oedd yn rhannu’r un diddordeb a brwdfrydedd am un peth –y theatr. Nawr yn ffrindiau da ac yn bartneriaid busnes, mae Nia Wyn Jones o Aberdaron, Hannah Wynn Jones o Fae Colwyn a Catrin Wyn Jones o Lanelli, oll yn gweithio’n llawn amser ac yn rhedeg y cwmni theatr fel menter rhan amser hynod o lwyddiannus. Esboniodd y cyd-gynhyrchydd, Catrin Wyn Jones, 27, ethos y cwmni: “Pan wnaethon ni raddio o Brifysgol Aberystwyth yn 2003, ‘roedd llawer o’n ffrindiau a’n cyd-fyfyrwyr wedi dechrau bandiau roc ac yn cynnal gigs yn aml. Ac fe wnaethon ni feddwl, pam na allwn ni fod yn ran o fenter creadigol hefyd? Pam fod grwpiau roc o bob safon yn cael platfform a chynulleidfa yng Nghymru a bod cwmnïau theatr yn methu gwneud? ‘Rydyn ni o’r farn fod drama yn debyg iawn i gig. Noson allan i fwynhau –dyna beth mae bobl eisiau a dyna beth ‘rydyn ni’n bwriadu ei roi iddyn nhw!” Diolch i gefnogaeth sefydliadau fel Entrepreneur Action, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd, mae’r cwmni yn mynd o nerth i nerth ac yn dathlu ei benblwydd yn saith oed gyda’i nawfed cynhyrchiad! Felly os hoffech chi gael noson allan i’w chofio, ewch yn llu i Ganolfan sgleiniog a newydd Chapter rhwng Tachwedd 3-6 a mwynhewch ddramau ‘Angel’. Mi fyddai’n BECHOD i’w colli! |
Cwmni Theatr 3D web site: www.cwmnitheatr3d.co.uk |
e-mail: info@cwmnitheatr3d.co.uk |
Thursday, October 29, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999