![]() Trwy gydol Fflach / Flash, mae pobl wedi cyfrannu eu gwybodaeth am hanes lleol, ailadrodd chwedlau lleol, a rhannu eu hatgofion personol yngl_n â dod i oed yn yr ardal. Bydd y storïau a gasglwyd yn ystod y prosiect yn darparu deunydd thematig ac ysbrydoliaeth ar gyfer creu drama gymunedol ddwyieithog ar raddfa fawr a gynhelir ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yng Nglynebwy ar 29ain Gorffennaf 2010. Yn ystod y prosiect, mae Einir wedi gweithio gyda chyfanswm o dros 1,250 o bobl, proses y mae hi wedi disgrifio fel ‘ysbrydoliaeth wirioneddol’. Ychwanegodd: ‘Bu’r bobl sydd wedi gweithio gyda fi yn haelionus dros ben wrth rannu eu profiadau personol a syniadau creadigol. Mae'n anhygoel gweld a chlywed sut mae pobl y cymoedd yma wedi dygymod a'r newid yn y tirwedd, a pha mor hanfodol i'w bodolaeth yw'r bryniau di-newid, sy'n eu hamgylchynu.’ Recordiwyd y storïau a gasglwyd drwy gyfryngau drama, dawns, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a thechnoleg ddigidol a’u cyflwynir mewn pedwar arddangosfa a pherfformiad byr unigryw a fydd yn digwydd dros y mis nesaf. Ymunwch â ni yn arddangosfeydd Fflach / Flash i glywed storïau o’ch cymunedau ac i ddarganfod mwy am sut y gellwch chi gyfrannu i Ddrama Gymunedol yr Eisteddfod. Cynhelir arddangosfeydd yng Nghanolfan Hamdden Rhyd-y-car ar 28ain Tachwedd, Canolfan Cymunedol Abertyswg a’r T_ Weindio, Tredegar Newydd, ar 5ed Rhagfyr, Canolfan Treftadaeth Blaenafon ar 6ed Rhagfyr a’r Sefydliad Glynebwy ar 10fed Rhagfyr. Bydd mynediad i’r arddangosfeydd yn rhad ac am ddim. Prosiect cymunedol, creadigol, dwyieithog yw Fflach / Flash a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cadw a Herian. Er gwybodaeth bellach, cysylltwch â Chelf ar y Blaen ar 01495 357816 (info@head4arts.org.uk) |
web site: www.head4arts.org.uk |
e-mail: info@head4arts.org.uk |
Tuesday, November 17, 2009![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999