Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

TAITH Y GOFALWR     

TAITH Y GOFALWR Deugain mlynedd ar ôl ei llwyfannu am y tro cyntaf bydd comedi-drasig roddodd y llwyddiant masnachol cyntaf i’r dramodydd, actor, ymgyrchwr a’r enillydd Gwobr Nobel enwog, Harold Pinter, yn teithio o gwmpas rhai o brif theatrau Cymru mis nesaf.

Dros gyfnod o chwech wythnos bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu cyfieithiad Elis Gwyn o ddrama glasurol Pinter o densiwn, pwer a chynllwynio, Y Gofalwr.

Mae Y Gofalwr wedi ei haddasu ar gyfer ffilm a theledu ac erys y ddrama’n eicon o’i dull a’i dydd. Fel yn nramâu Pinter yn gyffredinol mae’r ddrama’n ymwneud â gwrthdaro chwyrn rhwng cymeriadau sydd mor groes â’i gilydd (dau frawd ac ymwelydd o dramp yn yr achos hwn) sy’n ceisio’u gorau glas cael y gorau ar y naill a’r llall mewn geiriau a gweithred tra’n ceisio dod i delerau â’u gorffennol.

O ran steil mae’r ddrama’n gyfuniad o realiti’n gymysg ag elfennau o’r abswrd ac wedi’i nodweddu â seibiadau theatrig amwys, amseru doniol, eironi a bygythiad. Mae’n codi cwr y llen ar faterion astrus sy’n ymwneud â hunaniaeth yr unigolyn wrth wynebu grymoedd cymdeithasol, iaith a throeon ar fyd.

Cyfieithwyd Y Gofalwr i’r Gymraeg yn niwedd y 1960au gan y diweddar Elis Gwyn o Lanystumdwy yng Ngwynedd. Roedd Elis Gwyn, fu’n athro celf ym Mhwllheli, yn frawd i’r dramodydd, WS Jones (Wil Sam), ac fe ymgymerodd â’r cyfieithiad yn arbennig ar gyfer Cwmni Drama Amateur Theatr y Gegin Cricieth – theatr gafodd ei sefydlu gan y ddau frawd.

“Cafwyd perfformiad proffesiynol hefyd o Y Gofalwr pan deithiodd Cwmni Theatr Cymru gyda chynhyrchiad clodwiw,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams.
“Roedd cynulleidfaoedd wrth eu boddau ac yn hynod falch gyda chyfeithiad o ddrama fodern glasurol Pinter yn eu hiaith eu hunain,” ychwanegodd.

Cyfarwyddir Y Gofalwr gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts. Chwareir rhannau tri cymeriad y ddrama gan yr actorion profiadol yn y theatr ac ar y teledu Llion Williams, Rhodri Siôn a Carwyn Jones. Cynlluniwyd y set gan Sean Crawley a dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru lwyfannu un o ddramâu Harold Pinter.

“Mae Y Gofalwr hefyd yn deyrnged Theatr Genedlaethol Cymru i Harold Pinter ac Elis Gwyn fel ei gilydd – dau unigolyn gyfranodd cymaint i fyd y theatr,” ychwanegodd Elin Williams.
“Heb os bydd cynulleidfa heddiw eto’n cael eu hudo gan eu gwaith ar un o ddramâu mwyaf yr Ugeinfed Ganrif.”

Bu farw Harold Pinter yn 2008 ac Elis Gwyn ym 1999.

Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, 4-6 Chwefror, 2010, cyn mynd ymlaen i :

•Theatr Elli, Llanelli (0845 226 3510), ar nosweithiau Mawrth a
Mercher, 9-10 Chwefror, 2010;
• Canolfan Celfyddydau Pontardawe (01792 863722) ar nos Wener, 12
Chwefror, 2010;
• Theatr Glan yr Afon, Casnewydd (01633 656757), ar nos Iau, 18
February, 2010;
• Neuadd Dwyfor, Pwllheli (01758 704088), ar nosweithiau Mercher, Iau,
Gwener a Sadwrn, 24-27 Chwefror, 2010;
• Theatr John Ambrose, Rhuthun (01824 702575), ar nosweithiau Mawrth a
Mercher, 2-3 Mawrth, 2010;
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (01970 623232) ar nosweithiau
Gwener a Sadwrn, 5-6 Mawrth, 2010;
• Theatr Felin-fach, Ceredigion (01570 470697), ar nosweithau Mawrth a
Mercher 9-10 Mawrth, 2010;
• Theatr Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (08700
40 2000), ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, 12-13 Mawrth, 2010.
 
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, January 11, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk