Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

MAE’R TORCH YN CYHOEDDI CYFARWYDDWYR CYSYLLTIOL NEWYDD     

MAE’R TORCH YN CYHOEDDI CYFARWYDDWYR CYSYLLTIOL NEWYDD Mae Theatr y Torch Aberdaugleddau wedi cyhoeddi penodiad Sean Crowley a Simon Harris fel Cyfarwyddwyr Cysylltiol y cwmni. Bydd y ddau yn cynnig cefnogaeth ymgynghorol, gelfyddydol a chreadigol i’r Bwrdd Rheoli yn ogystal â chyfrannu fel ymarferwyr theatr.

Mae Sean Crowley yn drefnydd golygfeydd blaenllaw ac yn Bennaeth Dylunio a Chyfarwyddwr Drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Bu’n brif ddylunydd Theatr y Torch am dros un ar bymtheng mlynedd, gan ddylunio tri deg a chwech o gynyrchiadau, gan gynnwys nifer sydd wedi ennill gwobrau. Bydd Sean yn parhau i ddylunio i’r cwmni ond bydd hefyd yn helpu’r theatr i ddatblygu rhaglen i annog talent dylunio ifanc yng Nghymru.

Mae Simon Harris yn gyfarwyddwr ac yn ddramodydd llwyddiannus, ac ar hyn o bryd mae’n dderbynnydd Gwobr Cymru Greadigol o Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae ei berthynas broffesiynol â’r Torch yn ymestyn yn ôl dros nifer o flynyddoedd ac mae’n cynnwys sawl cynhyrchiad teithiol llwyddiannus iawn. Mae’n gyn-Gyfarwyddwr Artistig Sgript Cymru, yn ogystal â Chymrawd Graddedig Rhaglen Arweinyddiaeth Clore. Bydd Simon yn gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Artistig Peter Doran er mwyn gwella a datblygu’r rhaglen artistig. Rhagwelir y bydd Simon hefyd yn cyfarwyddo cynyrchiadau i’r cwmni yn y dyfodol.

Meddai’r Cyfarwyddwr Artistig, Peter Doran, “Rwyf wrth fy modd gyda’r penodiadau hyn; rwyf wedi gweithio’n agos iawn gyda Sean a Simon am nifer o flynyddoedd, ac rwy’n edmygu eu sgiliau fel ymarferwyr theatr yn fawr iawn. Mae’n fraint eu bod wedi cytuno i chwarae rôl fwy blaenllaw mewn meithrin a datblygu potensial artistig y Torch”.

Roedd Sean Crowley yn falch iawn i dderbyn y rôl o Gyfarwyddwr Cysylltiol gan nodi “Mae’r Torch yn annwyl iawn i mi, yn wir, mae wedi fy nghaniatáu i ddatblygu fy nghrefft dros yr un mlynedd ar bymtheg diwethaf; y Torch yw’r man perffaith i ddylunwyr ifainc i ddatblygu. Gobeithiaf y gallwn roi’r fath gyfle i ddylunwyr ifainc Cymru nad yw ar gael yn hawdd iddynt yn y diwydiant cystadleuol iawn hwn”.

Dywedodd Simon Harris “Rwyf wrth fy modd i fod yn Gyfarwyddwr Cysylltiol y Torch. Mae ganddi berthynas arbennig iawn â’i chynulleidfa ac un o’r llwyfannau hyfrytaf yng Nghymru. Yn gweithio o dan arweinyddiaeth ysbrydoledig Peter, rwy’n gyffrous iawn am ddyfodol y theatr a’r cyfle i chwarae rôl yn ei datblygiad artistig. Cychwynnodd Sean a finnau ein gyrfaoedd gyda’n gilydd yn ein harddegau hwyr fel aelodau o’r un theatr ieuenctid - o ganlyniad, mae’r ddau ohonom yn rhannu mewn ymrwymiad Peter ymrwymiad i weld talentau creadigol yng Nghymru yn gwir ffynnu a thyfu.”
Torch Theatre Milford Haven  
web site
: www.torchtheatre.co.uk

e-mail:
Tuesday, January 26, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk