Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cyfarwyddwr Artistig Yn Ffarwelio     

 Cyfarwyddwr Artistig Yn Ffarwelio Mae Cadeirydd Bwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru, Yr Athro Ioan Williams, wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi derbyn ymddiswyddiad Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni.

Wedi cyfnod o saith mlynedd wrth y llyw, mae Cefin Roberts wedi penderfynu ymddiswyddo.

Cynhyrchiad olaf Cefin fel Cyfarwyddwr Artistig fydd ‘Y Gofalwr’ - cyfieithiad o ddrama glasurol Harold Pinter - sydd yn cychwyn ar ei thaith o amgylch theatrau Cymru'r wythnos nesaf (04 Chwefror 2010). Bydd Cefin yn gadael ei swydd ar 31 Mawrth 2010.

Dywedodd Ioan Williams ei fod yn hynod ddiolchgar am y cyfraniad y mae Cefin wedi ei wneud i’r Cwmni ers y dyddiau cyntaf ac am yr arweiniad artistig y mae wedi ei gynnig i bawb sydd wedi cydweithio ar brosiectau amrywiol y Cwmni dros saith mlynedd ei fodolaeth.

‘Mae Cefin yn ein gadael gydag ein dymuniadau gorau a’n diolchiadau am ei ymroddiad a’i waith caled ers sefydlu’r Cwmni’, meddai. ‘Ar ran y Bwrdd, fe hoffwn ddymuno pob dymuniad da iddo yn ei yrfa. Diolchwn iddo am roi sylfaeni cadarn iawn i’r Cwmni ac edrychwn ymlaen at gyfnod newydd pan fyddwn yn adeiladu ar y sylfeini rheiny, gan gynnig i’n cynulleidfa ystod o’r gwaith theatraidd gorau sydd ar gael.’

Dywedodd Cefin Roberts: “Mae teimladau cymysg iawn gen i wrth ddatgan fy ymddiswyddiad. Fe fydd hi’n anodd iawn ffarwelio a’r staff a chyfeillion dwi wedi cael y fraint o gyd weithio a chyd gymdeithasu hefo nhw tra’n byw yng Nghaerfyrddin, ond teimlaf ei bod hi’n amser da i mi ollwng yr awenau ac edrychaf ymlaen at gael mwy o amser gyda fy nheulu yn ôl yn y Gogledd. Dymunaf bob dymuniad da i’r Cwmni a gobeithio y caf y fraint o weithio gyda’r Theatr eto yn y dyfodol.”

Mae’r gwaith o chwilio olynydd i Cefin Roberts eisoes wedi cychwyn ac fe fydd hysbysebion yn y wasg yn ystod yr wythnosau nesaf.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Wednesday, January 27, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk