![]() Mae cynllun grant peilot ar gyfer Cysylltiadau trwy gyfrwng Diwylliant : India - DU ar gael yn awr. Gellir cael gwybodaeth bellach am y rhaglen, gan gynnwys arweinlyfr ar weithio yn yr India, ar wefan newydd Cysylltiadau trwy gyfrwng Diwylliant. Byddwch yn ymwybodol y bydd rhai dolenni yn cysylltu i safleoedd we Saesneg Mae unrhyw gynhyrchydd celfyddydol neu gynrychiolydd sefydliad celfyddydol yn gymwys i ymgeisio; gweler y cynlluniau unigol am wybodaeth bellach a manylion meini prawf. Y dyddiad cau yw 8 Mawrth 2010. Mae’r cynllun grant cyfredol yn cynnig cefnogaeth mewn tri prif faes: Ymweliadau Arbennig - Mae yna nifer o grantiau bychain ar gael tuag at gostau ymweliadau ymchwil i’r bartner wlad. Nod y rhain yw helpu sefydliadau i ddatblygu partneriaethau potensial trwy’r trafodaethau wyneb yn wyneb sy’n angenrheidiol i ddatblygu prosiectau y tu hwnt i’r diddordeb cychwynnol. Cefnogaeth i Ddatblygu - Mae yna hefyd nifer o grantiau ar gael i helpu i ddatblygu gwaith cydweithrediadol, sef trwy gyfrannu tuag at gostau teithio a chynhyrchu. Arddangos gwaith cydweithrediadol - Tra bod ‘Cysylltiadau trwy gyfrwng Diwylliant’ yn ymwneud yn bennaf â datblygu perthynasau er mwyn galluogi gwaith cydweithrediadol i ddigwydd, mae yna achosion lle gallwn gefnogi arddangos gwaith yn yr India, trwy gyfrwng grantiau bychain tuag at beth o’r cyfanswm costau. Gwybodaeth ychwanegol: g: http://www.britishcouncil.org/cy/wales-arts-current-projects-connecting-through-culture-india.htm |
web site: www.britishcouncil.org/india-arts-connectionsthruculture |
e-mail: |
Thursday, February 4, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999