CYNLLUN HYFFORDDIANT CELFYDDYDAU CYMUNEDOL AM DDIM
|
Yn agored i ymarferwyr creadigol mewn unrhyw faes, bydd y cwrs preswyl hwn yn darparu trosolwg o ymarferion celfyddydau cymunedol, gan gynnwys datblygiadau polisi ac agenda cyfredol. Bydd yn cynorthwyo artistiaid gyda: Sut i ysgrifennu ceisiadau am arian a chyflwyno syniadau; Technegau darparu effeithiol; Mynediad, cydraddoldeb a materion diogelu plant; Paratoi asesiadau risg ac anhepgorion gweithio fel ymarferydd ar liwt eich hunan, fel datblygiadau deddfwriaeth, contractau a phortffolios.
Bydd gan artistiaid y cyfle i wneud cais i ddatblygu prosiect peilot ar gyfer gr_p targed a nodwyd gan swyddogion Datblygu'r Celfyddydau. Yn ogystal â hynny, bydd gan artistiaid y cyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau byr dymor a fydd yn cael eu mentora gan artistiaid yn siroedd Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tydfil, Torfaen a Blaenau Gwent.
Felly, nid yn unig byddwch chi'n cael yr hyfforddiant ardderchog hwn AM DDIM, gan gynnwys BWYD, LLETY a chyfle i RWYDWEITHIO, gallwch hefyd gael y cyfle i DDARPARU PROSIECT CELFYDDYDAU CYMUNEDOL EICH HUNAN!
Mae'r cwrs yn un preswyl ac mae'n rhedeg o 10am ar Fawrth y 26ain i Hanner Dydd ar yr 28ain.
Yr unig beth sydd rhaid i chi ei wneud yw llenwi a dychwelyd ffurflen erbyn dydd Gwener y 19eg o Chwefror. Cysylltwch â 07948 219147 neu e-bostiwch datblygucelfyddydau@caerffili.gov.uk
|
web site: |
e-mail: |
Monday, February 8, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999