Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

PENODI AELODAU O GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU     

PENODI AELODAU O GYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi penodi chwe aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru: John Geraint, Osi Rhys Osmond, Richard Turner, Alan Watkin, Gerwyn Williams a John Carey Williams.

Byddant yn cael eu penodi am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau yn eu swyddi ar 1 Ebrill 2010.__Meddai Alun Ffred Jones:__"Dw i’n hynod falch o gael penodi chwe aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae ganddyn nhw brofiad helaeth a gwerthfawr, a chefndiroedd gwahanol ym maes y celfyddydau, a dwi’n si??r y bydd ganddyn nhw gyfraniad mawr i’w wneud i waith Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystod y tair blynedd y byddan nhw’n aelodau ohono.’


Meddai Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
‘Mae’n anorfod bod teimlad o dristwch pan fydd cyfnodau aelodau gwerthfawr a phrofiadol o Gyngor Celfyddydau Cymru yn eu swyddi yn dod i ben. Mae David Vokes, Simon Dancey, Ruth Till a Rhiannon Hughes wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru. Ond wrth i ni ddiolch iddyn nhw, a ffarwelio a nhw, byddwn ni hefyd yn croesawu chwe aelod newydd. Creodd eu ceisiadau gryn argraff oherwydd yr arbenigedd a’r brwdfrydedd angerddol a oedd mor amlwg ynddynt. Bydd y rhinweddau hynny’n gwbl hanfodol i ni eleni wrth i’r Adolygiad o Fuddsoddiad Strategol fynd rhagddo. Mae’r Cyngor ar ei newydd wedd yn un sydd a chyfuniad gwych o bersonoliaethau a phrofiad, a dwi’n ymfalchio’n fawr yn y ffaith mai fi, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd, fydd yn cael y fraint o’i arwain yn ystod y tair blynedd tyngedfennol nesaf.’
LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU  
web site
:

e-mail:
Tuesday, February 9, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk