Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Prosiect Celf yn Annog Disgyblion i Ddatblygu Hunan Hyder     

Prosiect Celf yn Annog Disgyblion i Ddatblygu Hunan Hyder Mae cynllun peilot heriol ac ysbrydoledig wedi ei greu a’i ddatblygu gan ddau gwmni Celfyddydol lleol; Cwmni’r Frân Wen sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn (sy’n darparu theatr heriol o’r safon uchaf i blant a phobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru) a Dawns i Bawb (Cwmni Dawns Cymunedol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru) sydd wedi ei leoli yn Galeri, Caernarfon.

Mae tri artist lleol wedi eu dewis ac wedi cael eu hyfforddi i weithio ar y cyd ag arbenigwyr o Contact Theatre, Manceinion, gyda phobl ifanc Ysgol Coed Menai ac Uned Bryn Llwyd, Bangor. Mae’r cynllun yn ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc gyda’r ffocws ar unigolion sydd yn gallu bod yn anodd eu cyrraedd. Mae pŵer gweithgareddau celfyddydol eisoes wedi ei brofi i fod yn hynod o fuddiol yn y broses o feithrin hunan hyder, magu hunan barch ac ymddiriedaeth ac o ganlyniad yn gallu symbylu potensial yng ngalluoedd y cyfranogwyr.

Prif ddyhead y cynllun yw i’r bobl ifanc gymryd perchnogaeth a chymryd arweiniad i ddatblygu sgiliau mewn ffurf ar gelfyddyd o’u dewis. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu dros 12 diwrnod ac yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau fydd yn cyflwyno’r bobl ifanc i ddisgyblaethau celfyddydol amrywiol fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau newydd, yn eu cyffroi a’u hysbrydoli. Bydd canlyniad y cynllun yn deillio o gymhelliant a chyfrifoldeb y bobl ifanc sy’n cymryd rhan i greu perfformiad byr fydd yn dod â’r holl elfennau celfyddydol ynghyd. Elfen arall o’r cynllun fydd datblygu sgiliau’r artistiaid proffesiynol. Ychydig iawn o ddarpariaeth ar gyfer y math hwn o waith sydd ar gael ar hyn o bryd oherwydd prinder artistiaid cymwys yn yr ardal.

Ar y fwydlen ceir rhaglen o weithgareddau sy’n cynnwys gweithdai amrywiol o ddawnsio stryd i rapio, ysgrifennu geiriau i ganeuon a sgriptiau i berfformio drama, y cyfan gyda’r bwriad o annog y bobl ifanc i feithrin sgiliau cyfathrebu a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm. Nodau allweddol i’w datblygu yn ystod y cynllun yw cyflwyno elfennau sylfaenol creu perfformiad. Bydd y gwaith yn cael ei greu mewn awyrgylch o ymddiriedaeth, cefnogaeth a pharch at eraill.

Dywedodd Cyfarwyddwraig Artistig Cwmni’r Frân Wen, Iola Ynyr:
“Mae Cwmni’r Frân Wen yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio ag Ysgol Coed Menai ac Uned Bryn Llwyd Bangor ac yn edrych ymlaen at roi cyfle a chefnogaeth i’r bobl ifanc arbrofi gydag aml ffurfiau ar gelfyddyd dan arweiniad artistiaid proffesiynol. Mae’r Cwmni yn ogystal yn hynod falch o’r cyfle i sefydlu partneriaethau creadigol newydd gyda Dawns i Bawb a Contact Theatre, Manceinion yn y gobaith y gellir datblygu’r cynllun mewn ardaloedd eraill yn y dyfodol agos”
Bydd y cynllun yn diweddu gyda chyflwyniad anffurfiol o’r gwaith gan y ddau grŵp.

Derbyniwyd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu’r cynllun arloesol hwn.

Cydweithwyd gyda Adran Datblygu’r Celfyddydau Urdd Gobaith Cymru gyda’r Cynllun Llwybr i’r Brig er mwyn archedu’r Cynllun fel bod y cyfranogwyr yn derbyn cymhwyster elfennol Cyflwyniad i’r Celfyddydau.
 
web site
:

e-mail:
Thursday, March 25, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk