THEATR BARA CAWS yn teithio drama newydd - addasiad Bryn Fôn o ddrama David Harrower - ‘Blackbird’. |
![]() Enillodd drama ysgytwol David Harrower ‘Blackbird’ wobr Olivier pan ymddangosodd gyntaf ar lwyfan Llundain yn 2007 ac mae wedi ei chynhyrchu gan gwmnïau theatr ar draws y byd bellach. Mae Bara Caws yn falch o gael bod y cwmni Cymraeg cyntaf i lwyfannu’r ddrama herfeiddiol yma yn y Gymraeg. Adar bregus a’u hadenydd wedi’u torri yw Mei a Lora, wedi eu handwyo’n seicolegol gan ddigwyddiadau yn y gorffennol newidiodd fywydau’r ddau am byth. Mae hi’n 27 a fynta’n 56 ac fe gawsant berthynas fer rhyw bymtheng mlynedd yn ôl - pan oedd o’n 40 a hithau’n l2 oed. Nid ydynt wedi gweld ei gilydd ers pan aeth Mei i’r carchar. Dioddefodd Lora fywyd o fysedd yn pwyntio ac wynebau’n syllu, o sibrydion cas ac ensyniadau hyll tra aeth Mei yn ei flaen i ddechrau bywyd newydd mewn tref newydd, newid ei enw a dechrau o’r dechrau. Bellach mae o’n rheolwr mewn busnes gwerthu nwyddau meddygol ac mae Lora wedi dod o hyd iddo ar ôl gweld ei lun mewn cylchgrawn yn ei meddygfa leol. Pan ymunwn a’r ddrama mae Mei wedi ei gornelu ganddi yn ystafell gyffredin y staff ynghanol sbwriel bywyd pob dydd y gwaith, ond pam? Ai ydi eisiau ei niweidio, ei gyhuddo, ei gywilyddio? Ynteu ydi hi isio ail ddechrau’r berthynas fu mor niweidiol i’r ddau….? ‘Mae ‘Deryn Du’ yn datgymalu pedoffeilia ond hefyd yn darganfod cyffredinolrwydd amgylchiadau eithafol. I unrhyw un sydd wedi ceisio ymweld â pherthynas ffaeledig - carwriaeth drist, ysgariad chwerw neu fagwraeth gan riant treisgar mae teimladau Mei a Lora, eu cyfrinachau a’u hunan dwyll wrth iddynt geisio deall y gorffennol yn gyfarwydd….’ Albert Williams – Performing Arts Review Hoffai’r cwmni dynnu eich sylw i’r ffaith fod y cynhyrchiad, sydd yn ddatgymaliad synhwyrol a theimladwy o berthynas, yn cynnwys golygfeydd allai fod yn anaddas i rai nad ydynt yn oedolion. |
Bara Caws web site: |
e-mail: tbaracaws@btconnect.com |
Friday, April 2, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999