![]() O ganlyniad mae Bwrdd Rheoli’r cwmni wedi gohirio penodi Cyfarwyddwr Artistig newydd hyd nes y cwblheir yr adolygiad yn yr Hydref. “Gydag ymadawiad diweddar Cefin Roberts, wedi saith mlynedd llwyddiannus fel Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, mae’r Bwrdd wedi manteisio ar y cyfle i adolygiad trwyadl o strwythur a gweithgaredd y Cwmni er mwyn sicrhau ei fod yn ateb gofynion y gynulleidfa am flynyddoedd i ddod, meddai Cadeirydd Thetar Genedlaethol Cymru, Yr Athro Ioan Williams. “Maen hyn yn gyfle gwych i gynllunio ar gyfer dyfodol cynhyrfus a disglair ar drothwy pennod newydd yn ei ddatblygiad fel rhan annatod o fywyd artistig y genedl,” ychwanegodd Cyhoeddir enwau aelodau gweithor yr adolygiad yn fuan cyn iddynt ddechrau ac gyfres o ymgynghoriadau a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid led led Cymru. Bu Thetar Genedlaethokl Cymru hefyd mewn trafodaethau gyda Chyngor y Celfyddydau a bydd y gweithgor yn adrodd ei ganlyniadau i Fwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru yn yr Hydref. Yn absenoldeb Cyfarwyddwr Artisig parhaol gwahoddir cyfarwyddwyr allanol i ofalu am brosiectau penodol. Cyfarwyddir y cyhyrchiad nesaf “Dau. Un. Un. Dim” gan Manon Wyn ac “Yn Y Trên” gan Saunders Lewis, gan Betsan Llwyd a chynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymnru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy eleni fydd “Gwlad er Addedwid”, sef cyfieithiad Sharon Morgan o ddrama enwog Ed Thomas, “House of America”. Cyhoddir enw’r cyfarwyddwr gwadd yn fuan. |
theatr genedlaethol cymru web site: www.theatr.com |
e-mail: |
Wednesday, April 14, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999