Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ymrwymiadau Cymru’n Un mewn perthynas â’r Celfyddydau - DATGANIAD GAN LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth     

Ymrwymiadau Cymru’n Un mewn perthynas â’r Celfyddydau - DATGANIAD GAN LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth Mae Pennod 9 dogfen Cymru’n Un yn nodi agenda’r Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Ei gweledigaeth yw creu profiadau diwylliannol o ansawdd uchel sydd ar gael i bawb, ni waeth beth fo’u cefndir. Ystyr “profiadau” yn hyn o beth yw cymryd rhan yn y celfyddydau a’u mynychu.

Ga’ i atgoffa’r Aelodau mai ymrwymiad Cymru’n Un oedd sefydlu Theatr Genedlaethol Iaith Saesneg i Gymru. Mae’r cwmni wedi rhoi’r chwyddwydr ar Gymru mewn ffordd a fydd ond yn gwella ein henw da fel gwlad lle mae diwylliant yn bwysig.

Mae dechreuad addawol y theatr newydd yn rhoi pleser mawr imi. Roedd rhai o Aelodau’r Cynulliad am weld y cwmni newydd yn cael ei sefydlu mewn theatr yn eu hetholaeth hwy. Ond penderfynwyd na fydd ganddo d_ cynhyrchu sefydlog. Yn hytrach, bydd yn cydweithio â chwmnïau theatr sydd eisoes yn bodoli. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae hynny’n cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â theatrau’r Sherman, y Torch, a Glan yr Afon. Rwy’n falch iawn o weld yr awydd hwn i gydweithio. Wrth gwrs, mae gennym theatr genedlaethol lwyddiannus yn barod, sef Theatr Genedlaethol Cymru, yn ogystal â chwmni poblogaidd Theatr Clwyd.

Mae Theatr y Sherman wedi dechrau ar y gwaith o foderneiddio’r safle. Yn yr un modd â Chanolfan Gelfyddydau’r Chapter, mae’r Sherman wrthi’n ddiwyd yn codi arian ar gyfer y prosiect hwn, er bod Cyngor y Celfyddydau wedi darparu cymorth hefyd. Er gwaethaf dargyfeirio arian y loteri i’r Gemau Olympaidd, mae’n newyddion da bod prosiectau strategol allweddol yn parhau i ddenu buddsoddiad cyfalaf. Yn ddiweddar, fe fues i’n ymweld ag Oriel Glynn Vivian i glywed am eu gwaith ailddatblygu, a fydd yn defnyddio arian o’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol.

Mae buddsoddi yn y celfyddydau yn helpu gyda’r newid trawiadol sydd ar y gweill yn y maes yng Nghymru – er enghraifft, gallaf dynnu’ch sylw at y gwaith i ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd, neu’r Galeri yng Nghaernarfon, Canolfan Grefft trawiadol Rhuthun, ac Oriel Mostyn yn Llandudno, heb sôn am safleoedd llai o faint fel Theatr Twm o’r Nant yn Ninbych.

Rwy’n parhau i lywio’r broses o roi Adolygiad Celfyddydau Cymru Elan Closs Stephens ar waith. Bydd Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau yn cyfarfod ym mis Mehefin i drafod y Diwydiannau Creadigol a’r celfyddydau yn fyd-eang. Wrth reswm, mae rhoi llwyfan byd-eang i gynhyrchwyr artistig yn ymrwymiad Cymru’n Un, ac fe’i trafodwyd gennym fis hydref diwethaf yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Yn ddiweddar, yn unol â’n hymrwymiad yn Cymru’n Un, ystyriais a ddylid sefydlu’r syniad o ryddid artistig yng Nghyfraith Cymru. Ar hyn o bryd, rwyf o’r farn na ddylem ddatblygu deddfwriaeth i Gymru a fyddai’n ddiangen yng nghyd-destun y fframwaith cyfreithiol cynhwysfawr presennol. Galwodd adolygiad Stephens ar Lywodraeth y Cynulliad i gyhoeddi ei hymrwymiad i ryddid artistig. Rwy’n fwy na bodlon gwneud hynny heddiw.

Rwy’n parhau i oruchwylio gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru o ddatblygu a chyflenwi polisi ar gyfer y celfyddydau. Rwyf wedi gofyn iddo gynnal adolygiad cynhwysfawr o’i fodel cyllid refeniw presennol, a chyn bo hir bydd Bwrdd y Cyngor yn penderfynu pa fudiadau fydd yn derbyn cyllid refeniw yn 2011-12. Mae’r adolygiad wedi bod yn orchwyl mawr i’r Cyngor, a’r bwriad yw iddo arwain at bortffolio o fudiadau sy’n derbyn cymorth grant ac sy’n ariannol gynaliadwy, a fydd yn cynhyrchu celfyddydau o ansawdd uchel ar gyfer cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol.

Yn ystod y dirwasgiad, yr her imi fel y Gweinidog dros Dreftadaeth yw cynrychioli’r celfyddydau mewn ffordd sy’n dwyn perswâd ar eraill bod y celfyddydau’n bwysig. Rwy’n gyfrifol am geisio’r setliad gorau posibl i’r celfyddydau, fel eu bod ar gael yn lleol i’r gynulleidfa ehangaf posibl, p’un a ydyn nhw’n gallu talu ai peidio. Mae’n newyddion gwych i nifer y tocynnau a werthwyd gynyddu 7.6% y llynedd. Mae ymchwil gan Gyngor y Celfyddydau’n cadarnhau bod 86% o bobl Cymru yn cytuno y dylai’r celfyddydau gael cyllid cyhoeddus.

Edrychodd adolygiad Stephens ar y rhan y gallai’r celfyddydau ei chwarae wrth ddatblygu polisïau trawsbynciol. Argymhellodd y dylai Cyngor y Celfyddydau fod yn fwy effeithiol fel asiantaeth i ddatblygu’r celfyddydau. Mae Cyngor y Celfyddydau wedi llwyddo i sicrhau cyllid Ewropeaidd gwerth £5m ar gyfer rhaglen Cyrraedd y Nod, sy’n ymdrin â phobl ifanc heb y sgiliau angenrheidiol i ganfod gwaith neu gyfleoedd addysg a hyfforddiant.

Rydym hefyd yn gweithio gyda llywodraeth leol, a hynny nid yn unig trwy’r ddyletswydd statudol – rydym ni a Chyngor y Celfyddydau hefyd yn rhan o bartneriaeth Arts Connect yn ne ddwyrain Cymru. Mae’r mudiad hwn wrthi’n ffurfio partneriaeth arloesol sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol. Mae cymunedau lleol yn bwysig, ac mae’n hanfodol rhoi’r cyfle i bobl Cymru wylio neu gymryd rhan yn y celfyddydau ble bynnag maen nhw’n byw. Trwy osod sylfeini cadarn yma yng Nghymru, rydym hefyd yn sicrhau bod gennym gelfyddydau uchel eu hansawdd i’w harddangos dramor fel rhan o’n gwaith i hyrwyddo ein henw da yn rhyngwladol.

Rwy’n hynod falch, felly, o fod yn chwarae fy rhan i yn lwyddiant y Lywodraeth ynghyd a’r rwymiadau Cymru’n Un ar gyfer y celfyddydau, ac o gydnabod rhan fy rhagflaenwyr yn y broses hon. Mae’r parch hwn tuag at y celfyddydau wedi’i feithrin gan nifer o weinidogion blaenorol dros ddiwylliant, ac mae’n deillio o fisoedd a blynyddoedd cyntaf y Cynulliad. Un o’r rhesymau imi a’m rhagflaenwyr wneud hyn yw am fod y celfyddydau - fel y dywedodd yr Athro Hargreaves yn ddiweddar - wrth galon yr economi. Ar hyn o bryd, mae dros 6,500 o bobl wedi’u cyflogi yn ein portffolio o fudiadau sy’n derbyn cyllid refeniw. Amcangyfrifir fod y diwydiannau creadigol yng Nghymru’n cyflogi hyd at 30,000 o bobl. Mae buddsoddiad cyfalaf yn arwain at greu swyddi newydd ledled Cymru, er enghraifft yn Aberystwyth, lle cafodd 80 o swyddi newydd eu creu yn sgil ymestyn Canolfan y Celfyddydau.

Mae ein hartistiaid a’n lleoliadau artistig wedi ennill gwobrau di-ri. Maen nhw hefyd yn denu cyllid o fannau eraill. Er enghraifft, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Maen nhw’n denu cynulleidfaoedd mawr: dros y 3 blynedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n mynychu’r celfyddydau wedi cynyddu bob blwyddyn i’r lefel uchaf erioed. Er enghraifft yn 2009, pan ddathlodd ei phen-blwydd yn 5 oed, denodd Canolfan Mileniwm Cymru gyfanswm o 370,000 o bobl drwy’r drysau. Dyma ei blwyddyn fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn. Bu’r dathliadau ym mis Tachwedd yn llwyddiannus iawn, ac roeddent yn cynnwys cyngerdd cofiadwy o gerddoriaeth Karl Jenkins dan arweiniad y cyfansoddwr ei hun, y bues i’n ddigon ffodus i’w fynychu.

Rwy’n ddiolchgar am y cyfle hwn i roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud mewn perthynas â’i hymrwymiadau Cymru’n Un ym maes y celfyddydau.
 
web site
:

e-mail:
Tuesday, April 20, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk