Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

AELOD STAFF NEWYDD CYMDEITHAS DDRAMA CYMRU     

AELOD STAFF NEWYDD CYMDEITHAS DDRAMA CYMRU Daw Ceri o Lanrwst, Sir Conwy. Graddiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mewn Hanes a Hanes Cymru.

Prif ddiddordebau Ceri yw cerddoriaeth ar theatr; ers iddi astudio Drama Lefel A mae wedi cymryd diddordeb a cefnogi dramâu, cynhyrchiadau amatur. Mae Ceri’n ysgrifennu adolygidau cerddoriaeth yn fisol i ‘Y Cymro’ a ‘Y Selar’ am gigs, bandiau a talentau newydd y sîn roc Gymraeg, ac yn mynychu nifer o _yliau cerddorol.

Ei diddordeb arall yw gwirfoddoli, mae newydd gyrredd adref o Nepal, tra yno bu’n byw ac yn helpu adeiladu ganolfan addysg ac addysgu plant yr ysgol leol mewn pentref di-freintiedig o’r enw Lamatar, tu allan i Kathmandu. Bu’n gwirfoddoli’n Romania dwy flynnedd yn ôl hefyd, mewn pentref di-freintiedig o’r enw Popestii, tra yno bu’n gweithio gyda plant yr catref amddifad leol ac helpu codi arian i dalu am brawf llygaid i’r plant.

Yr hyn a ddylwn glodfori yw ein hiaith a mae Ceri’n sicr yn llawn angerdd am yr iaith Gymraeg. Maen aelod gweithgar i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ac ers iddi ddychwelyd o Nepal mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu erthyglau i bapurau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg, siarad ar Radio Cymru a Wedi 3 am brofiadau’r daith.

O ran profiad cyflogaeth, bu Ceri’n gweithio i Adran y wasg a farchnata Prifysgol Aberystwyth yn denu myfyrwyr drwy gvnnal cyflwyniadau, hysbysebu a chefnogi digwyddiadau’r Brifysgol.

Mae Ceri’n falch iawn o gael y cyfle i weithio â chymdeithas Ddrama Cymru. Mi fydd yn cyd-weithio gyda gr_piau theatr amatur Gogledd Cymru yn cynorthwyo’i datblygiad drwy gefnogi nhw ymhob ffordd, rhwydweithio, g_yliau dramâu, gweithdai. Ei phrif amcan yw ceisio datblygu grwpiau a dramodwyr cyfrwng y Gymraeg.

***********************************************

Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein gwefan http://dramawales.org.uk/ neu cysylltwch â Ceri Phillips ceri@dramawales.org.uk

 
web site
: dramawales.org.uk/

e-mail: ceri@dramawales.org.uk
Tuesday, May 11, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk