Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

MERCHED EIRA     

MERCHED EIRA Ar daith: MEDI 6 – MEDI 25, 2010

Actorion: Gaynor Morgan Rees, Martin Thomas ac Olwen Rees
Cyfarwyddwr: Bryn Fôn

Tyda ni ddim wedi ein gwneud ar gyfar paradwys…’ ar draeth euraidd yr oedden nhw i fod, nid yn crwydro mewn diffaethwch o eira. Mae’r cwbl yn ddryswch i Edith ac Edna - pam fan hyn a pham fel hyn? Ond gyda ‘hanas yn cyfarth fel hen gi pan ma’ hi’n nosi’ daw ambell i beth yn fwy eglur a gyda’r dadmar, y dadrithiad.

Henaint, unigrwydd a brad cyfrinachau bod sydd wrth galon drama ddiweddaraf Aled Jones-Williams. Unwaith eto ma’ ei huodledd cyhyrog yn ein harwain i fannau tywyll yn y ffyrdd mwya’ difyr, yn dal llusern gynnes ar ymyl y dibyn oeraf un.

Hon yw’r diweddaraf o ddramâu Aled i gael ei chyflwyno gan Gwmni Theatr Bara Caws ac fel ‘Beth Oedd Enw Ci Tin Tin’, ‘Lysh’ a ‘Sundance’ mae addewid o ddrama sy’n berwi o syniadau, o ddeialog disglair ac o weledigaeth eofn a digyfaddawd.

Wedi perfformio yn Theatr Beaufort (Glyn Ebwy) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy (Awst 2010) fe fydd y cwmni’n teithio’r ddrama o amgylch cymunedau Cymru o’r 6ed o Fedi hyd at 25 o Fedi, 2010


THEATR BARA CAWS
presents a new play by Aled Jones Williams

‘MERCHED EIRA’

(Director: Bryn Fôn)

‘We were not made for Paradise…’ They were headed for miles of sun drenched beaches, so how did they end up in this snow bound wilderness? Edith and Edna struggle to make sense of their predicament – why here and why like this? But with the past barking like an old dog at dusk, when the thaw comes what will they see?

Senility, loneliness and the casual treachery of everyday life drive this latest play by Aled Jones-Williams. Once again he leads us to the darkest places in the lightest way possible and swings a warm bright lantern over the edge of the coldest cliff of all.

The latest in a distinguished list of plays Aled has written for Bara Caws – ‘Merched Eira’ like ‘Lysh’,
‘Be Oedd Enw Ci Tin Tin’ and ‘Sundance’ before it, offers the same heady mix of sparkling dialogue, eternal themes and a uniquely uncompromising vision.

Following performances the Beaufort Theatre in Ebbw Vale (National Eisteddfod Week) Bara Caws will be touring communities throughout Wales from 6th September to 25th September, 2010.
Bara Caws  
web site
:

e-mail:
Thursday, May 27, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk