Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

NATIONAL THEATRE WALES A HIDE&SEEK YN CYMRYD GÊMAU THEATR I LEFEL NEWYDD GYDA THE BEACH     

NATIONAL THEATRE WALES A HIDE&SEEK YN CYMRYD 
GÊMAU THEATR I LEFEL NEWYDD GYDA THE BEACH
Beth sy'n gwneud i bobl adael eu tref enedigol, a beth wedyn sy'n gwneud iddyn nhw ddychwelyd? Beth sy'n digwydd iddyn nhw yn y cyfamser? Ym mhumed cynhyrchiad National Theatre Wales ym mis Gorffennaf, bydd tri actor ifanc nodedig yn creu gêm unigryw yn yr awyr agored ym Mhrestatyn, gogledd Cymru, gêm sy'n mynd i'r afael â phynciau difrifol.

Mae The Beach yn gêm theatr newydd-sbon, wedi'i chomisiynu gan National Theatre Wales, ar y cyd â Hide&Seek, un o gynllunwyr pennaf gêmau theatr. Mae gêmau theatr yn ddigwyddiadau rhyngweithiol lle mae profiad y gynulleidfa yn cael ei bennu gan eu dewisiadau nhw eu hunain. Rhoddir amcanion penodol i gyfranogwyr y maen rhaid iddynt eu cyflawni o fewn rheolau'r gêm. Chwarëusrwydd a naturioldeb yw'r geiriau allweddol.

Bydd y gêm yn dechrau ac yn gorffen ar y traeth ym Mhrestatyn. Bydd y gynulleidfa'n ffurfio timau o chwech, pob un â'i nodweddion penodol ei hun, ac fe fydd pob aelod yn derbyn cerdyn adnabod ag arno fanylion am eu rôl nhw'n unigol. Gofynnir i bob tîm gwblhau chwe thasg, pob un ar ran wahanol o'r traeth neu yn yr ardal gerllaw. Bydd y tasgau'n gyfuniad cyffrous o reswm, canfyddiad, cofio a chyflymdra. Er enghraifft, mae'n bosib y gofynnir i'r timau gymysgu coctêls mewn disgo tawel, cystadlu mewn ras neu baru wynebau cyfarwydd y dref â'u disgrifiadau.

Nod y gêm fydd dod â chenhedlaeth goll Prestatyn yn eu hôl, ac ateb y cwestiwn ‘beth fyddai'n dod â nhw yn eu holau’? Bydd y tîm â'r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gêm yn cael y cyfle i gyflwyno eu syniadau nhw.

Crëwyd y sioe gan Rhiannon Cousins, Bethan Marlow a Carl Morris, ac fe'i cyfarwyddir gan Catherine Paskell.

Mae Rhiannon Cousins yn awdur sgriptiau o Aberhonddu. Ar ôl gweithio am bum mlynedd fel cyfarwyddwr cynorthwyol ym myd ffilm a theledu, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer y sgrin yn 2002 ar ôl ennill cystadleuaeth 'S4C yn 20 Oed' â'i sgript Bys Priodasol (Wedding Ring Finger), ffilm a gyfarwyddwyd ganddi hefyd. Ers hynny, derbyniodd Rhiannon gomisiynau gan S4C, BBC Cymru ac ITV, ac mae hi wedi ysgrifennu drama aml-blatfform ar-lein. Dyma ei gwaith cyntaf ar gyfer y theatr.

Mae Bethan Marlow yn ddramodydd ac awdur aml-blatfform. Fe'i magwyd ym Methel, gogledd Cymru. Hyfforddodd fel actor yn Llundain cyn dechrau ysgrifennu, a theithio i dde-ddwyrain Asia ac Affrica. Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Sgin Ti Gariad? (Sherman Cymru), KKK (RSC), Wales v England (Paines Plough's LATER) a Patroiophobia (Sherman Cymru). Mae ei gwaith ar-lein yn cynnwys Such Tweet Sorrow (RSC), Cei Bach (S4C) a Hatty Rainbow – drama ar-lein yr oedd a gynhyrchodd ar YouTube.

Mae Carl Morris yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel ymgynghorydd gyda chwmnïau sy'n defnyddio'r we i ddod o hyd i gymunedau a'u datblygu. Ef hefyd sy'n gyfrifol am Sleeveface, prosiect ffotograffiaeth byd-eang lle mae pobl yn cuddio rhannau o'u cyrff â chloriau recordiau feinyl. Mae ei flog personol i'w weld ar www.quixoticquisling.com

Mae Catherine Paskell yn gydymaith creadigol gyda National Theatre Wales ac yn gyfarwyddwr ffilm. Mae hi'n hanu'n wreiddiol o Gaerdydd. Hyfforddodd ar gwrs MFA Cyfarwyddo Theatr Birkbeck ac fe gynhyrchodd hi waith ar gyfer theatrau a chwmnïau teithiol sy'n cynnwys Oldham Coliseum, Lyric Theatre Hammersmith, Trafalgar Studios, Contact Manchester, Theatre 503, The Finborough, Tara Arts, Haddo House Opera, Baron's Court Theatre a'r Octagon Theatre Bolton, lle roedd hi hefyd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Preswyl.

Mae Hide&Seek yn stiwdio cynllunio gêmau sy'n arbenigo mewn dyfeisio ffyrdd newydd o chwarae. Roedden nhw'n gyfrifol am yr ŵyl gêmau treiddiol (pervasive) gyntaf yn Llundain yn 2007 – yr Hide&Seek Weekender erbyn hyn, sy'n cael ei gynnal bob haf yn y South Bank yn Llundain. Maen nhw'n gyfrifol am y Sandpit, cyfres o ddigwyddiadau ledled Prydain, a rhwydwaith ffyniannus o artistiaid, cynllunwyr gêmau a chwaraewyr, ac yn creu gêmau cymdeithasol a phrofiadau chwareus i gleientiaid yn y sectorau masnachol, cyhoeddus a diwylliannol.
www.hideandseek.net


GWYBODAETH AM BERFFORMIADAU

27 Gorffennaf – 1 Awst 2010
7yh (cyfarfod y tu ôl i Ganolfan Nova, ar lan y môr)
Prestatyn, Sir Ddinbych
Tocynnau £2

Swyddfa docynnau
Canolfan Gelfyddydau Scala, Prestatyn
Ffôn: 01745 850197
www.scalaprestatyn.co.uk
National Theatre Wales  
web site
: www.nationaltheatrewales.org

e-mail:
Monday, June 14, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk