Huw Roberts
|
Bu farw’r dramodydd Huw Roberts, Pwllheli, ddydd Gwener, 25 Mehefin 2010, yn 88 mlwydd oed, Ysbyty Bryn Beryl, Pwllheli.
Gwnaeth Huw Roberts gyfraniad sylweddol ac arwyddocaol i fyd y theatr yng Nghymru trwy ei arweiniad cadarn, ei anogaeth ddiflino a’i gefnogaeth barhaus. Roedd ei frwdfrydedd tuag at gelfyddyd y theatr yn ei holl agweddau yn ysbrydoliaeth i nifer fawr o bobol. Rhoddodd bwyslais arbennig ar sgrifennu a chyflawnodd waith gwerthfawr yn annog a hybu dramodwyr.
Ysgrifennodd dair drama lwyfan: ‘Hywel A’ (1979), ‘Pont Robat’ (1981) a ‘Plas Dafydd’ (1988).
Bu’n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Theatr Cymru ers ei sefydlu yn 1967 ac yna’n Gadeirydd a Llywydd arni. Bu’n aelod o Banel Drama’r Eisteddfod Genedlaethol; yn aelod o fyrddau rheoli Cwmni Theatr Cymru a Theatr Gwynedd; a gwasanaethodd ar Bwyllgorau Drama Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru.
Bu’n gysylltiedig â ‘Pobol y Cwm’ o’r dechrau cyntaf ac am dros ddeng mlynedd gweithiodd ar y gyfres fel golygydd sgript ac awdur. Ysgrifennodd hefyd nifer o ddramâu teledu.
Bu’n actio a chyfarwyddo gyda Chwmni Glan y Môr, Pwllheli, o ddiwedd y pedwardegau hyd at ddechrau’r saithdegau.
Yn enedigol o Lanberis, treuliodd Huw Roberts y rhan fwyaf o’i oes ym Mhwllheli. Bu’n athro yn y pynciau gwyddonol yn Ysgol Uwchradd Botwnnog, lle bu’n dysgu am dros ddeng mlynedd ar hugain hyd ei ymddeoliad yn 1978. Bu’n Llywydd Cylch Llenyddol Llyn; yn Llywydd Clwb Golff Pwllheli; ac roedd yn arbenigwr ar hel achau.
Cynhelir angladd Huw Roberts yng Nghapel y Drindod, Pwllheli, am 11 o’r gloch fore dydd Mercher, 30 Mehefin 2010.
|
web site: |
e-mail: |
Monday, June 28, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999