Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

GWLAD YR ADDEWID     

GWLAD YR ADDEWID Cyflwr economaidd enbyd Cymoedd y De a’i effaith ar fywyd teulu a chymuned sydd heb waith, gobaith na moesoldeb yw cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent fis nesaf.

Cyfieithiad o ddrama angerddol Ed Thomas House of America yw Gwlad yr Addewid – drama dderbyniodd gydnabyddiaeth ryngwladol pan gafodd ei llwyfannu gyntaf yn ôl yn 1988. Gwaith Sharon Morgan yw’r cyfieithiad ac roedd yr actores amlwg hefyd ag un o brif rannau’r ddrama yn y cynhyrchiad gwreddiol.

“O ganlyniad iddi actio un o’r prif gymeriadau ar lwyfan mae gwybodaeth Sharon o’r ddrama heb ei ail ac roedd hynny’n ei gwneud yn gyfieithydd perffaith,” meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Angharad Williams.
“Hwn yw cynhyrchiad proffesiynol cyntaf Gwlad yr Addewid,” ychwanegodd.

Cyfarwyddir Gwlad yr Addewid gan Tim Baker sy’n dychwelyd at Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf ers ei lwyddiant ysgubol yn 2008 yn cyfarwyddo Porth y Byddar sef drama Manon Eames ar foddi Tryweryn yn y 1960au.

“Rwy’n eithriadol o falch bod yn ôl gyda Theatr Genedlaethol Cymru wrth i’r cwmni barhau i adeiladu ar gynulleidfa craidd ffyddlon,” meddai.
“Er i House of America weld golau dydd gyntaf dros 20 mlynedd yn ôl y mae’n parhau i fod a’i harwyddocâd i ni heddiw ac rwy’n edrych ymlaen i ddod â’r ddrama eiconaidd hon yn fyw i ddilynwyr y ddrama Gymraeg,” ychwanegodd.

Mae pump aelod o gast y ddrama’n cynnwys wynebau cyfarwydd i’r llwyfan a theledu megis Rhodri Meilir, Sarah Harris-Davies, Alun ap Brinley, Elin Phillips a wyneb cymharol newydd i fyd y theatr, Siôn Young.

Llwyfannir Gwlad yr Addewid yn Theatr y Met, Abertyleri, ar nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Awst 3-6, 2010. Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch am mae’r tocynnau ar gael yn Theatr Fach y Maes ac o’r Met (Ffôn: 01495 544600). Darperir bysiau i gludo’r gynulleidfa o Faes yr Eisteddfod ac o’r Maes Carafanau i’r perfformiadau yn Abertyleri.

Yn dilyn y perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Gwlad yr Addewid yn teithio’n yr hydref o gwmpas rhai o brif prif theatrau Cymru gan ddechrau yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ar nosweithiau Iau a Gwener, Medi 9-10, 2010, cyn mynd ymlaen i:
·
Galeri, Caernarfon, ar nosweithiau Mawrth, Mercher a Iau, Medi 14-16, 2010;
· Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, ar nosweithau Mawrth a Mercher, Medi 21-22, 2010;
· Canolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe, ar nos Sadwrn, Medi 25, 2010;
· Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nos Iau, Medi 30, a nosweithiau Gwener a Sadwrn, Hydref 1-2, 2010;
· Theatr Mwldan, Aberteifi, ar nosweithiau Mercher a Iau, Hydref 6-7, 2010; a
· Stowdio Weston yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Hydref 14-15, 2010.

Cefnogir Theatr Genedlaethiol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Theatr Genedlaethiol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, July 19, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk