Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘100’     

THEATR BARA CAWS   yn cyflwyno ‘100’
Mae Cwmni Theatr Bara Caws yn falch o gael cyflwyno ‘100’ fel ein cynhyrchiad nesaf, Tachwedd/Rhagfyr 2010.

Addaswyd y gwaith arloesol yma i’r Gymraeg gan Elin Jones, merch y nid anenwog Wil Sam Jones o’r darn a greuwyd gyntaf gan Neil Monaghan, Diene Petterle a Christopher Heimann. Mae’r ddrama sydd yn gymysgedd rithiol o symud a syniadau yn rhoi ail gyfle i’r cwmni fwynhau ei berthynas a Cai Tomos y coreograffydd a chwaraeodd ran mor bwysig yn llwyddiant ‘Llyfr Mawr y Plant’. Bydd 5 actor yng nghynhyrchiad ‘100’ a’r cyfarwyddwr yw Tony Llewelyn.

Dychmygwch fod yn rhaid i chi ddewis un atgof yn unig o’ch bywyd – bydd y gweddill yn diflannu am byth. Dychmygwch mai’r atgof hwnnw yw’r unig beth fydd yn gwmni i chi’n dragywydd. Dychmygwch mai dim ond awr sydd gennych i’w ddewis …. 100….99….98

Dewiswch rywbeth o blith y cyfan a wnaethoch ac a brofoch, a feddylioch ac a deimloch …. pa beth yw’r trysor drytaf?

Mae’r cymeriadau yn ‘100’ yn cael eu gorfodi i ddewis ac i ail fyw'r eiliadau hynny o atgof gan ddefnyddio dim ond eu cyrff a’u cyd actorion. Cludir ni o swyddfa yn Llundain, i ras feiciau modur, o ddyfnder coedwigoedd yr Amazon i ymyl dibyn bodolaeth wrth i’r unigolion geisio cipio un gêm werthfawr o flerwch eu byw a’u bod.
 
web site
:

e-mail:
Tuesday, July 20, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk