Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: ymchwiliad i ‘hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’     

Y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: ymchwiliad i ‘hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru’ Pwyllgor trawsbleidiol yw’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, sy’n cynnwys Aelodau o’r 4 plaid wleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n gyfrifol am archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth Cymru, a chyrff cyhoeddus cysylltiedig, mewn perthynas â Thai, Diogelwch Cymunedol, Cynhwysiant Cymunedol, yr Iaith Gymraeg, Chwaraeon a Diwylliant.

Un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, a amlinellir yn ‘Cymru’n Un,’ oedd bod ‘profiadau diwylliannol o’r radd flaenaf ar gael i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu ymhle y maent yn byw.’ O ganlyniad i’r ymrwymiad hwn, mae nifer o weithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn derbyn arian a chymorth uniongyrchol neu anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Ein bwriad yw archwilio a fu buddsoddiad o’r fath yn effeithiol o ran cyflawni bwriad datganedig Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad at brofiadau diwylliannol. Rydym hefyd yn ymwybodol y bydd yr hinsawdd ariannol bresennol yn rhoi pwysau anochel ar gymorth o’r fath, a’n bwriad yw ystyried pa effaith bosibl a gaiff hyn ar fwriad datganedig Llywodraeth Cymru i ehangu mynediad.
Felly, rydym yn credu bod ymchwiliad i hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yn amserol ac o fewn cylch gwaith ein Pwyllgor trawsbleidiol.

Cyhoeddiadau polisi diweddar gan Lywodraeth Cymru
Yn dilyn cyhoeddi ‘Cymru’n Un’, gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o gyhoeddiadau yn ymwneud â’i nod o gynyddu hygyrchedd profiadau diwylliannol, gan gynnwys:

° parhau â chynllun sy’n rhoi mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau Cymru;
° y strategaeth Llyfrgelloedd am Oes a fyddai’n darparu £10.5 miliwn rhwng 2008 a 2011 i foderneiddio cyfleusterau llyfrgelloedd yng Nghymru;
° dau gynllun grant gwerth £860,000 yr un i annog archifau ac amgueddfeydd lleol i ddenu ymwelwyr newydd;
° £1.7 miliwn i wella mynediad i gasgliadau celf cenedlaethol Cymru; a
° chyhoeddi Strategaeth Amgueddfeydd Cymru 2010-2015, yn ddiweddar, sydd yn ymdrin â rhannu adnoddau a denu cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd iau.

Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru (‘Cyngor y Celfyddydau’) yw’r corff strategol cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, sy’n dosbarthu arian ar gyfer y celfyddydau ar ran Llywodraeth Cymru. Dywedodd llythyr cylch gwaith 2009-10 y Gweinidog Treftadaeth y byddai disgwyl i’r Cyngor Celfyddydau gyfrannu at nodau’r Llywodraeth drwy ‘ganolbwyntio buddsoddiad ar gynyddu mynediad a lledaenu cyfranogiad i gelfyddydau o’r radd flaenaf, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.’ At y diben hwn, cyhoeddodd Cyngor y Celfyddydau ddwy strategaeth ddrafft yn ymwneud â lledaenu mynediad:
° Newid Bywydau: Strategaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a’r Celfyddydau, sy’n amlinellu strategaeth Cyngor y Celfyddydau dros y tair blynedd nesaf i wella cyfranogiad ymysg plant a phobl ifanc yn y celfyddydau, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod cyfleoedd ar gael i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y celfyddydau yn agosach at eu cartref; a
° Cymryd Rhan: Strategaeth Cyfranogi Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru 2009-2013, sydd â’r nod o gynyddu cyfleoedd i bobl fod yn weithgar yn y celfyddydau, yn bennaf drwy hyrwyddo manteision cymryd rhan a thrwy ddangos yn well beth sydd ar gael ledled Cymru.

Arolwg Omnibus 2008
Er mwyn casglu gwybodaeth am faint o bobl oedd yn mynychu digwyddiadau celfyddydol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, cyfwelodd Cyngor y Celfyddydau â thua 1,000 o bobl yng Nghymru fel rhan o Arolwg Omnibus 2008. Dyma oedd y prif ganfyddiadau:

° mae 79 y cant o oedolion Cymru yn mynychu o leiaf un digwyddiad celfyddydol unwaith y flwyddyn neu’n amlach;
° mae llawer llai o amrywiad rhwng y rhanbarthau o ran presenoldeb cyffredinol nag yn y blynyddoedd blaenorol;
° mae presenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol yn parhau i gydberthyn i radd gymdeithasol, a’r rhai sydd yng nghategori ABC1 (86 y cant) sydd fwyaf tebygol o fynd i ddigwyddiadau celfyddydol na’r rhai sydd yng nghategori C2DE (72 y cant);
° mae oedolion iau yn llawer mwy tebygol nag oedolion h_n o fynd i ddigwyddiadau celfyddydol (92 y cant o’r rhai rhwng 16 a 24 oed o gymharu â 62 y cant o’r rhai 65 oed a throsodd);
° mae merched (82 y cant) yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad celfyddydol na dynion (75 y cant);
° nid oes fawr o wahaniaeth yn y duedd i fynd i ddigwyddiadau celfyddydol yn ôl y gallu i siarad Cymraeg neu beidio;
° mae 31 y cant o oedolion Cymru yn cymryd rhan uniongyrchol mewn gweithgareddau celfyddydol unwaith y flwyddyn neu fwy, ond mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol na’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath (42 y cant o gymharu â 28 y cant);
Adolygiad Buddsoddi 2010

Yn ogystal, ar 29 Mehefin 2010 cyhoeddodd Cyngor y Celfyddydau ganlyniad ei Adolygiad Buddsoddi manwl o’i drefniadau ariannu, a oedd yn penderfynu ar bortffolio newydd o 71 o sefydliadau refeniw a fyddai’n cael blaenoriaeth i dderbyn arian Cyngor y Celfyddydau o 1 Ebrill 2011 ymlaen. O ganlyniad i’r adolygiad, bydd y trefniant hwn yn dod i ben i 32 o sefydliadau yng Nghymru sy’n derbyn arian refeniw blynyddol o fis Ebrill 2011 ymlaen. Dywedodd Cyngor y Celfyddydau ei fod yn bwriadu parhau i roi cymorth i’r sefydliadau hyn drwy raglen bontio.

Cylch Gorchwyl
Cynnal ymchwiliad i hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, archwilio pa mor wasgaredig yw lleoliadau yn ddaearyddol, y gweithgareddau a gynhelir yn y canolfannau hynny, a materion yn ymwneud â mynediad ac arian. Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlynol:
° effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yng nghyd-destun darparu mynediad at weithgareddau diwylliannol;
° effaith Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2010, ar bob gweithgaredd a lleoliad diwylliannol yng Nghymru;
° effaith bosibl cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-12 ar bob gweithgaredd a lleoliad diwylliannol yng Nghymru;
° y radd y caiff lleoliadau a gweithgareddau eu gwasgaru yn ddaearyddol a sut y caiff mynediad ei hyrwyddo ledled Cymru;
° yr amrywiaeth demograffig o ran lefelau mynychu a chyfranogi, yn enwedig yng nghyd-destun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
° y rôl allweddol a chwaraeir gan awdurdodau lleol o ran darparu mynediad at weithgareddau celfyddydol a diwylliannol.



Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor yn y cyfeiriad uchod, i gyrraedd erbyn dydd Gwener 24 Medi 2010 fan bellaf.

Os oes modd, darparwch fersiwn electronig ar ffurf MS Word neu Rich Text, neu drwy e-bost at Community.Culture.comm@Wales.gov.uk

Nodwch yn y papur a fyddai diddordeb gennych mewn cyflwyno eich safbwyntiau i’r Pwyllgor yn bersonol.

Dechreuwch eich cyflwyniad drwy roi rhywfaint o wybodaeth amdanoch eich hun, neu eich sefydliad, cyn nodi eich safbwyntiau a’ch profiadau mewn perthynas â rhai neu’r cyfan o’r materion a ganlyn.

Beth yr hoffem ei gael gennych chi – cwestiynau’r ymgynghoriad
1. A ydych yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei ymrwymiad i sicrhau bod ‘profiadau diwylliannol o’r radd flaenaf ar gael i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu ymhle y maent yn byw?’ Pa mor effeithiol fu ei fuddsoddiad mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol o ran gwireddu’r amcan hwn?
2. Sut yn union mae lleoliadau celfyddydol a diwylliannol – gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau – yn mynd ati’n weithredol i hyrwyddo mynediad, denu cynulleidfaoedd newydd ac annog pobl i gymryd rhan yn unol ag ymrwymiad Cymru’n Un a strategaethau Cyngor y Celfyddydau?
3. A yw’r rhwydwaith presennol o leoliadau celfyddydol a diwylliannol yn ddigonol, ac a oes unrhyw faterion daearyddol neu faterion eraill sy’n parhau i fod yn rhwystrau o ran cymryd rhan (e.e. mewn ardaloedd gwledig neu ardaloedd difreintiedig)?
4. Beth fydd effaith Adolygiad Buddsoddi Cyngor y Celfyddydau ar y rhwydwaith o leoliadau a gweithgareddau diwylliannol ledled Cymru? A ydych yn ystyried y bydd penderfyniad Cyngor y Celfyddydau i roi’r gorau i ariannu 32 o sefydliadau, o ganlyniad i’r Adolygiad Buddsoddi, yn effeithio’n sylweddol ar hygyrchedd lleoliadau neu weithgareddau diwylliannol? A yw canolbwyntio’r arian yn osgoi iddo gael ei ddosbarthu’n rhy denau, a chyflawni ychydig?
5. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyllideb Cyngor y Celfyddydau ar gyfer 2011-2012 tan fis Rhagfyr 2010. Pa effaith a gaiff gostyngiad yng nghyllideb Cyngor y Celfyddydau ar hygyrchedd gweithgareddau diwylliannol a chelfyddydol yng Nghymru yn eich barn chi?
6. A oes gennych unrhyw bryderon am yr amrywiaeth yn ystod ac ansawdd gwasanaethau a gweithgareddau diwylliannol awdurdodau lleol ledled Cymru? A oes gan awdurdodau lleol ddigon o adnoddau i ariannu a chynorthwyo gweithgareddau diwylliannol yn gyson yn yr hinsawdd economaidd bresennol?
7. Awgrymodd Arolwg Omnibus Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 fod pobl broffesiynol, cymwysedig neu sy’n ymwneud â gwaith nad yw’n waith llaw yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad celfyddydol na’r rhai oedd yn weithwyr medrus neu led-fedrus. A yw hyn yn gyson â’ch profiadau chi? A allwch egluro’r amrywiad hwn, a sut y gellir mynd i’r afael ag ef?
8. Awgrymodd Arolwg Omnibus Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 fod oedolion iau yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad celfyddydol nag oedolion h_n. A yw hyn yn gyson â’ch profiadau chi? A allwch egluro’r amrywiad hwn, a sut y gellir mynd i’r afael ag ef?
9. Awgrymodd Arolwg Omnibus Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 fod merched yn fwy tebygol o fynd i ddigwyddiad celfyddydol na dynion. A yw hyn yn gyson â’ch profiadau chi? A allwch egluro’r amrywiad hwn, a sut y gellir mynd i’r afael ag ef?
10. Awgrymodd Arolwg Omnibus Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2008 fod Siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan uniongyrchol yn y celfyddydau na’r rhai nad ydynt yn Siarad Cymraeg. A yw hyn yn gyson â’ch profiadau chi? A allwch egluro’r amrywiad hwn, a sut y gellir mynd i’r afael ag ef?
11. A ydych yn ymwybodol o unrhyw amrywiadau arwyddocaol eraill ym mhresenoldeb a chyfranogiad y cyhoedd mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol (er enghraifft, yn seiliedig ar gefndir ethnig, anableddau, lleoliad mewn ardal drefol neu wledig)?
12. A hoffech wneud unrhyw sylwadau pellach ar hygyrchedd gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru?

Byddem yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolyn neu sefydliad nad ydynt wedi eu cynnwys ond a hoffai o bosibl gyfrannu i’r adolygiad. Ceir copi o’r llythyr hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol gyda gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu Gwybodaeth

Unwaith y caiff tystiolaeth ysgrifenedig ei gyflwyno i’r Pwyllgor, dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff ei drin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y byddant yn ymddangos gyda’r adroddiad yn dilyn hynny. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol. Fodd bynnag, os derbynnir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a roddir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, neu os nad ydych am i’ch enw, fel awdur y dystiolaeth, gael ei ddatgelu, rhaid nodi hyn yn glir a’ch penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.


Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor a’i ymchwiliad yn:
http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees.htm
Cynulliad Cymru  
web site
: www.assemblywales.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-scrutiny-committees.htm

e-mail:
Wednesday, July 21, 2010back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk