Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Deuddeg Dawnsiwr, Deuddeg Diwrnod a Dau Berfformiad Cyntaf     

Deuddeg Dawnsiwr, Deuddeg Diwrnod a Dau Berfformiad Cyntaf Mae deuddeg o ddawnswyr ifanc cyfoes gorau Cymru (rhwng 16 – 21 mlwydd oed), sy'n dod o bob rhan o Gymru, wrthi'n preswylio ar hyn o bryd yn UWIC, Caerdydd. Maen nhw'n paratoi at yr hyn sy'n argoeli i fod yn berfformiad heb ei ail yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu ar ddydd Gwener 30 Gorffennaf 2010.

Dewiswyd deuddeg aelod Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) trwy glyweliad yn gynharach eleni, ac ers hynny buont yn disgwyl yn eiddgar am ddechrau'r breswylfa ddeuddeg diwrnod. Maen nhw bellach ar ganol amserlen galed sy'n cynnwys dosbarth techneg dawns dyddiol, gweithdai creadigol, coreograffi ac ymarfer – a'r cyfan oll er mwyn paratoi am y noson o ddawns yn Aberhonddu.

Bydd Cyfarwyddwr Artistig/Coreograffydd DGIC, Errol White, yn cymryd egni a syniadau'r dawnswyr ifanc ac yn eu cymysgu â'i arddull symud nodedig ei hun. Yn ystod y cyfnod preswyl, byddan nhw'n creu ac yn ymarfer darn newydd sbon – mor newydd yn wir nad oes teitl iddo eto hyd yn oed! Mae'n argoeli i fod yn gyffrous, ffyrnig a difyrrus.

Eleni bydd gan DGIC gwmni wrth iddynt berfformio, sef y Cylch Cyfoedion – cwmni o bum dawnsiwr ifanc, pob un ohonynt yn gyn-aelodau DGIC. Eto, mae Errol wedi gweithio gyda'r artistiaid dawns proffesiynol hyn er mwyn creu'r ail ddarn newydd sbon i'w berfformio am y tro cyntaf yn Theatr Brycheiniog ar ddiwedd mis Gorffennaf. Mae'r darn, â'r teitl digon eironig, A State of Rest, eto'n ddarn cyflym a chyffrous â thrac sain o gerddoriaeth drefol, guriadol.

“I hope to create a programme with NYDW that is physically engaging and exciting to watch and perform; and I’m confident that that the young dancers and I will be proud of the work we generate, rehearse and perform this summer”.
Errol White, Cyfarwyddwr Artistig DGIC

Ganwyd Errol White yn Hull ac ar ôl gwneud y trawsnewidiad llwyddiannus o Rygbi'r Gynghrair (!), trwy freg-ddawnsio i ddawnsio cyfoes, perfformiodd gyda rhai o gwmnïau dawns cyfoes gorau'r DU, yn eu plith y cwmni o Gymru Diversions – Cwmni Dawns Cymru (Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru erbyn hyn). Hon yw ail flwyddyn Errol gyda DGIC.

DGIC 2010
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
Dydd Gwener 30 Gorffennaf (8pm)
Tocynnau: £12, £9 (consesiynau), £6 (myfyrwyr)
Swyddfa docynnau: 01874 611 622
 
web site
:

e-mail:
Thursday, July 22, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk