Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today
|
Mae Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar fin cyflwyno drama newydd sbon i gynulleidfaoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru yn Yr Wyddgrug a Glan yr Afon yng Nghasnewydd, gyda naw perfformiad cyhoeddus mewn wyth niwrnod yn unig!
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, canlyniad misoedd o ymchwil ac ysgrifennu gan gr_p o awduron ifanc gyda chefnogaeth y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames, yw Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today. Mae Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today, sef rhan olaf triawd o waith, yn hanes cwbl gyfoes o'r 21ain Ganrif sy'n defnyddio rhai o ddiddordebau pobl ifanc heddiw – yn wahanol iawn i gynhyrchiad hynod boblogaidd a llwyddiannus ThCIC y llynedd sef Canrif / Century oedd yn cyflwyno treftadaeth hanesyddol diweddar Cymru, a Mythau Mawreddog y Mabinogi / Magnificent Myths of the Mabinogi yn 2008, oedd yn canolbwyntio ar orffennol mytholegol Cymru.
Caiff Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today ei leoli yn nhref ddychmygol Llanhynallallacarall; mae'n olrhain campau ac yn datgelu cymeriadau lliwgar y dref yn ystod un cyfnod pedair awr ar hugain cyffrous. Wrth ddechrau ar y gwaith ysgrifennu, anogwyd yr awduron ifanc gan Manon a Chyfarwyddwr Artistig ThCIC, Tim Baker (sydd hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt preswyl Clwyd Theatr Cymru), i edrych ar strwythur Dan y Wenallt gan Dylan Thomas. Bu hyn yn gyfrwng llwyddiannus ar gyfer archwilio'r llu syniadau a phosibiliadau creadigol.
Mae 17 o bobl ifanc (16-24 mlwydd oed) yn ffurfio gr_p Awduron Ifanc ThCIC. Daethant at ei gilydd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2008; ers hynny, maent wedi cwrdd dros sawl penwythnos a thrwy wneud hynny y datblygodd y golygfeydd, cymeriadau a'r hanes ei hun yn araf bach, gyda dychymyg ac arsylwadau craff yr awduron ifanc eu hunain yn gyrru'r holl weithgarwch. Wrth wraidd eu stori mae tyfu i fyny 'yn yr oes gyfathrebu', ynghyd â chamgymeriadau, eithafion a disgwyliadau cenhedlaeth ifanc. Mae'n haf, 2010, - ben bore, geneth ifanc mewn trallod yn camu ar ganllaw pont; amser cinio, dathliadau'n priodas y flwyddyn yn cychwyn; yn y cyfnos, gwn yn tanio yn Afghanistan …..
Mae Diwrnod Heb Ei Debyg / No Other Day Like Today yn cyfuno dweud stori a deialog â cherddoriaeth, symud ac effeithiau clywedol.
Daw aelodau Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru o Gymru gyfan ac maent rhwng 16-21 mlwydd oed. Cafodd dros 200 o bobl ifanc eu clyweld am ThCIC 2010. Rheolir y Theatr Ieuenctid gan CBAC ar ran 22 awdurdod unedol Cymru.
|
web site: |
e-mail: |
Thursday, September 2, 2010 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999