Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Prosiect Deori - Prosiect datblygu creadigol Galw am geisiadau     

Prosiect Deori - Prosiect datblygu creadigol
Galw am geisiadau Eleni, mae Canolfan Mileniwm Cymru’n cychwyn ar 5ed blwyddyn Deori, lle caiff unigolion neu gwmnïau artistig gyfle i dreulio amser yn datblygu darn newydd o waith.

Bydd pob cais llwyddiannus yn cael datblygu’r gwaith yn ardaloedd ymarfer y Ganolfan, gan fynd ymlaen i’w berfformio o flaen cynulleidfa gyhoeddus a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes y celfyddydau,ynghyd â chael cyngor a chefnogaeth rheoli’r celfyddydau gan y tîm.


Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion sy’n gweithio yn Gymraeg neu Saesneg, ym maes theatr, dawns, syrcas, gwaith safle-benodol a chelfyddydau digidol ac ar-lein.



Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm 1 Hydref 2010
Anfonwch eich cais i’r prosiect Deori at:

Simon Coates Cynhyrchydd Cysylltiol
Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, CF10 5AL

Neu dros e-bost i simon.coates@wmc.org.uk

Caiff artistiaid a chwmnïau eu dewis erbyn dydd Gwener 8 Hydref 2010
Cysylltwch â Simon Coates os hoffech chi unrhyw fanylion eraill.
Wales Millennium Centre  
web site
: wmc.org.uk/deori

e-mail: simon.coates@wmc.org.uk
Saturday, September 4, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk