TAIR SGWRS YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU YN YSTOD TYMOR YR HYDREF |
![]() Bydd y gyfres yn dechrau gyda Catherine Johnson, sydd fwyaf adnabyddus am ysgrifennu'r sgript ar gyfer y sioe gerdd 'Mamma Mia!' Bydd Johnson yn siarad am ysgrifennu'r sgript ar gyfer y sioe lwyddiannus, a'r broses o ddod â'r sioe yn fyw ar lwyfan. Bydd Catherine Johnson yn sgwrsio ar 15 Medi 2010. Bydd 'Mamma Mia!' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 16 Tachwedd 2010 a 23 Ionawr 2011. Ar hyn o bryd mae'r sioe wedi gwerthu mwy na 105,000 o docynnau yn y chwe mis ers iddynt fynd ar werth. Howard Blake yw un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol y DU. Mae ei gerddoriaeth ar gyfer 'The Snowman' gan Raymond Briggs yn cynnwys y gân enwog 'Walking in the Air', a helpodd i lansio gyrfa'r canwr Aled Jones. Mewn arolwg barn diweddar gan 'Classic FM' a oedd yn ceisio dod o hyd i'r gerddoriaeth glasurol sydd fwyaf poblogaidd ymysg plant, daeth 'Walking in the Air' yn ail, ar ôl cerddoriaeth John Williams ar gyfer ffilmiau 'Harry Potter'. Cyn i 'The Snowman' ymddangos yn y Ganolfan rhwng 10 a 13 Tachwedd 2010, bydd y cyfansoddwr yn trafod y broses o ysgrifennu ac addasu cerddoriaeth a geiriau ar gyfer y llwyfan a'r sgrîn ar 12 Hydref 2010 yn y sesiwn 'Yng Nghwmni Howard Blake'. Cafodd rhaglen uchelgeisiol ei lansio gan National Theatre Wales ar gyfer 2010-11, a oedd yn cynnwys 12 o berfformiadau mewn 12 mis. Ar y 24 o Dachwedd 2010, bydd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni theatr, John McGrath, yn edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf y cwmni a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ei gydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru. Yn ystod 'National Theatre Wales: One year on' bydd cyfle hefyd i'r gynulleidfa roi adborth i John ac i wrando ar sut mae'n bwriadu mynd â'r cwmni i mewn i'w ail flwyddyn lawn o gynyrchiadau. Bydd yr holl sgyrsiau'n cael eu cyflwyno gan Nicola Heywood Thomas, a byddant yn dechrau am 6.30pm. Mae'r sgyrsiau am ddim, ond dylid archebu tocynnau ymlaen llaw. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r swyddfa docynnau drwy ffonio 029 2063 6464 neu ewch i www.yganolfan.org.uk Mae'r sgyrsiau'n rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau rhad ac am ddim sydd â'r bwriad o ddod â chynulleidfaoedd yn agosach at gelfyddydau gwahanol yn y Ganolfan. Maent yn cynnwys gweithdai a dosbarthiadau gyda'r perfformwyr, archwilio celfyddydau gwahanol megis dawns a theatr yn ogystal â'r arddangosfeydd a'r gigiau a gynhelir ar y llwyfan yng nghyntedd y Lanfa. Ceir manylion llawn ar y wefan www.wmc.org.uk/dyledi |
Canolfan y Mileniwm web site: www.yganolfan.org.uk |
e-mail: |
Monday, September 6, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999