Canolfan Mileniwm Cymru, Dy Le Di - Gwahoddiad i chi rannu’ch barn gyda ni |
![]() cliciwch yma i fynd i’n gwefan Erbyn hyn, mae tri dyddiad wedi ei gadarnhau, felly gwnewch nodyn yn y dyddiadur. Byddwn ni’n cadarnhau tri dyddiad arall hefyd – i ddod i’r Canolbarth, y De Orllewin a De Cymru ddechrau 2011. Cadwch olwg ar ein gwefan i gael manylion y dyddiadau a lleoliadau. Felly, os ydych chi ar gael, dewch draw i un o’r ddau sesiwn yn eich ardal chi – un ai rhwng 2pm-5pm neu rhwng 5pm-8pm. Byddwn i’n dod i: Y Ganolfan, Porthmadog - Dydd Iau 23 Medi 2010 Town Hall, Llandudno - Dydd Iau 21 Hydref 2010 Arad Goch, Aberystwyth - Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2010 Bydd y ddau sesiwn (bore a phrynhawn) yn cynnwys: Cyflwyniad gan Ganolfan Mileniwm Cymru ynghylch pwy ydyn ni, a’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Golwg ar weithgareddau cyfredol, a gweithgareddau’r Ganolfan yn y dyfodol – ydyn ni’n llwyddo o’ch safbwynt chi? Cyfle i gael trafodaeth fanylach am faterion sy’n berthnasol i chi – gan gynnwys ein gwaith Addysg a Dysgu Gydol Oes, cyfleoedd perfformio yn y Ganolfan, cydweithio – syniadau am brosiectau lleol. Bydd cyfle i gynnig adborth cyffredinol hefyd a thrafod materion eraill yr hoffech eu codi efallai. Sesiynau un i un gyda staff y Ganolfan, sy’n gyfle i chi leisio’ch syniadau a gofyn cwestiynau. Cyfle i lenwi holiadur ar-lein / cardiau cadw mewn cysylltiad / rhoi sylwadau ar post-its / recordio sylwadau ar fideo, fel ystafell Big Brother / Twitter. Perfformiad gan artistiaid neu berfformwyr lleol. Mae rhaglen fanylach o weithgareddau ar gael ar ein gwefan, ynghyd â ffyrdd i chi gymrydrhan hyd yn oed os na allwch chi ddod i un o’r sesiynau yma. cliciwch yma i fynd i’n gwefan Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod atoch chi, a chael eich cyfarfod. Byddai’n wych petaech chi’n gallu rhoi gwybod i ni os allwch chi ddod, anfonwch e-bost: addysg@wmc.org.uk os gwelwch yn dda. Mae croeso cynnes i chi anfon y gwahoddiad yma ymlaen i unrhyw un arall rydych chi’n meddwl fyddai â diddordeb hefyd. |
wales millennium centre web site: www.wmc.org.uk/index.cfm?UUID=320A2438-E0C7-0F68-D28C42CC2B290421&language=cy |
e-mail: addysg@wmc.org.uk |
Monday, September 6, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999