Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

GWAHODD CEISIADAU GAN ARTISTIAID I GYMRYD RHAN MEWN CYNLLUN CREADIGOL YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU     

GWAHODD CEISIADAU GAN ARTISTIAID I GYMRYD RHAN MEWN CYNLLUN CREADIGOL YNG NGHANOLFAN MILENIWM CYMRU Heddiw bu Canolfan Mileniwm Cymru yn gwahodd artistiaid ar draws y wlad i gymryd rhan yn ei phrosiect 'Deori' yn ystod tymor yr hydref.

Dyma'r pumed flwyddyn yn olynol i'r Ganolfan cynnal y prosiect sy'n cynnig cyfle i unigolion neu gwmnïau artistig dreulio amser yn datblygu darn newydd o waith.

Bydd artistiaid yn cael cyfle i weithio ar eu syniadau yn ardaloedd ymarfer y Ganolfan o 11 Hydref hyd at 5 Tachwedd 2010. Yn ystod y cyfnod hwnnw byddant yn derbyn cyngor arbenigol a chefnogaeth gan dimau creadigol a thechnegol y Ganolfan yn ogystal â gweithwyr proffesiynol o faes y celfyddydau. Bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu gwylio'r perfformiadau a rhannu eu sylwadau gyda'r artistiaid mewn noson arbennig yn y Ganolfan ar 5 Tachwedd 2010.

Dywedodd Fiona Allan, Cyfarwyddwr Artistig, Canolfan Mileniwm Cymru: 'Bwriad 'Deori' yw rhoi hwb creadigol i artistiaid a bod yn fan cychwyn i berfformiadau teithiol o Gymru. Fel arweinwyr yn y celfyddydau perfformio, rydyn ni am weithio mewn partneriaeth gydag artistiaid newydd a rhai sy'n datblygu i ysbrydoli eu creadigrwydd a magu eu talent.'

Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi bod yn rhan o brosiect 'Deori' mae Bethan Marlow fu'n gweithio gyda National Theatre Wales ar ei gynhyrchiad o 'The Beach' a Dafydd James, awdur y ddrama lwyddiannus 'Llwyth' fu'n perfformio mewn theatrau ledled Cymru, ac yn Llundain.

Mae'r Ganolfan yn croesawu ceisiadau gan gwmnïau ac unigolion sydd yn hanu neu'n byw yng Nghymru. Mae 'Deori' yn addas ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn Gymraeg neu Saesneg, ym maes theatr, dawns, syrcas, gwaith safle-benodol a chelfyddydau digidol ac ar-lein. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ddarparu cais wedi ei deipio ar un dudalen ar y mwyaf, yn disgrifio'r darn o waith ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Hydref 2010. Am ragor o wybodaeth ewch i www.yganolfan.org.uk/deori neu cysylltwch â Simon Coates 029 2063 4637
Canolfan y Mileniwm  
web site
: www.yganolfan.org.uk/deori

e-mail:
Wednesday, September 8, 2010back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk