LOVE STEALS US FROM LONELINESS 
Ar y cyd â Sherman Cymru
Wedi’i hysgrifennu gan Gary Owen
Cyfarwyddwr John E McGrath
Dydd Iau 7fed Hydref – Dydd Sadwrn, 16eg Hydref 2010
Hobo’s Rock Club & Live Music Venue, Pen-y-bont

Ar gyfer y cynhyrchiad allweddol hwn ym mlwyddyn lansio National Theatre Wales, mae Gary Owen, un o ddramodwyr pennaf Cymru, wedi troi ei olygon at y dref lle y treuliodd ei arddegau, gan ofyn sut beth yw bod yn arddegwr ym Mhen-y-bont, yng Nghymru ac yn y DG heddiw.
Bydd Gary yn cydweithio â'r cyfarwyddwr John E McGrath (Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales) a chast o sêr sy'n cynnwys enillydd BAFTA Cymru Nia Roberts (Lois), ac a ymddangosodd yn ddiweddar yn Doctor Who BBC Cymru a chyn hynny yn y ffilm Solomon a Gaenor, a enwebwyd am Oscar.
Yn Love Steals Us From Loneliness, mae Gary'n edrych y tu hwnt i benawdau'r papurau newydd i archwilio'r gwir bynciau sy'n effeithio ar fywydau adolesent – byrbwylltra, ansicrwydd, emosiynau eithafol, colled a cheisio ymdopi â cholled, dyheu, diflastod, euogrwydd, egni a gwrthodiad. Mae'r ddrama'n dilyn grŵp o arddegwyr ym Mhen-y-bont wrth iddyn nhw yfed gyda'i gilydd, archwilio'u hunaniaeth rywiol ac ystyried y dyfodol. Yna, un noson, mae popeth yn newid ac fe welwn sut y mae digwyddiadau llencyndod yn effeithio'n anwrthdroadwy ar ein bywydau fel oedolion.
Ganwyd Gary Owen yn Sir Benfro ym 1972, ac fe symudodd gyda'i deulu i Ben-y-bont pan oedd yn wyth a hanner mlwydd oed. Mae ei ddramâu yn cynnwys Crazy Gary's Mobile Disco, The Shadow of a Boy (enillydd Gwobr Meyer Whitworth a Gwobr George Devine), The Drowned World (enillydd Gwobrau Fringe First a Drama Orau Pearson) a Ghost City. Yn fwyaf diweddar, cwblhaodd addasiad newydd o A Christmas Carol Dickens ar gyfer Sherman Cymru, a Mrs Reynolds and The Ruffian i'r Watford Palace Theatre. Mae ei weithiau newydd eraill yr hydref hwn yn cynnwys In the Pipeline ar gyfer Paines Plough ac Òran Mór, a Blackthorn, drama newydd ar gyfer Clwyd Theatr Cymru. Gyda Helen Raynor, ef yw cyd-awdur a chreawdwr cyfres BBC Cymru, Baker Boys, fydd i'w gweld ar y sgrin fach cyn hir.
Cyfarwyddir Love Steals Us From Loneliness gan John E McGrath, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales. Cyn dod i weithio i’r cwmni, ef oedd Cyfarwyddwr Artistig Contact Theatre, Manceinion. Fe'i hyfforddwyd yn Efrog Newydd, lle roedd e hefyd yn Gyfarwyddwr Cysylltiol gyda Mabou Mines. Yn 2005, derbyniodd Wobr Arweinyddiaeth Ddiwylliannol NESTA. Ef oedd cyfarwyddwr cynhyrchiad cyntaf National Theatre Wales, A Good Night Out In The Valleys, ym mis Mawrth 2010.
Mae gwaith theatr diweddar Remy Beasley yn cynnwys It's About Time (Nabokov Theatre), Spring Awakening, Harvest a Realism (Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru). Mae ei gwaith ar gyfer y teledu yn cynnwys Tasha a'i gwaith ar ffilm yn cynnwys 20 Questions (BBC Cymru).
Hyfforddwyd Katie Elin-Salt yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Mae ei gwaith theatr diweddar yn cynnwys The Miracle, Playhouse Creatures ac August: Osage County (Coleg Cerdd & Drama Brenhinol Cymru), West Side Story a Singin’ in the Rain (Theatr Ieuenctid Pen-y-bont). Mae ei gwaith ar gyfer y teledu yn cynnwys Perfect Summer (Fiction Factory).
Mae gwaith Nia Roberts ar lwyfan yn cynnwys Esther (Theatr Genedlaethol Cymru), Lovely Evening (Young Vic) a Cymbeline (Ludlow Festival). Mae ei gwaith ffilm yn cynnwys Barafundle Bay (Western Edge Picture), Patagonia (Malacara), Theory of Flight (Paul Greengrass), Lois (Ffilmiau Eryri) a Solomon a Gaenor (Film Four), a enwebwyd ar gyfer Oscar y Ffilm Dramor Orau yn 2000. Mae ei gwaith teledu yn cynnwys Holby City (Teledu'r BBC), Pen Talar (Fiction Factory) a Hotel Babylon (BBC). Enillodd Wobr Actores Orau BAFTA Cymru yn 1999, ac fe'i henwebwyd am yr un wobr eto yn 2000.
Hyfforddwyd Mark Sumner yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Mae ei waith theatr diweddar yn cynnwys Harvest, The Changeling ac August: Osage County (Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru). Mae ei waith mewn sioeau cerdd yn ddiweddar yn cynnwys Hello Again (Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru), Fiddler on the Roof a West Side Story (Theatr Ieuenctid Pen-y-bont). Mae ei waith teledu yn cynnwys Con Passionate (Apollo).
Mae gwaith theatr diweddar Matthew Trevannion yn cynnwys @Virtually Real (Roundhouse), All in All (Rosencrantz, Amsterdam), Bright Unconquered Sons (Pleasance), Call Me Madam (Upstairs at the Gatehouse) Bent a Journey’s End (Broadway Theatre).
Mae Love Steals Us From Loneliness yn gynhyrchiad ar y cyd â Sherman Cymru. Mae adeilad y Sherman ar gau ar hyn o bryd ar gyfer gwaith ailddatblygu gwerth £5.4 miliwn ond mae'r cwmni'n dai i gynhyrchu a theithio gwaith yng Nghymru ac yn y DG. Cafodd eu cynhyrchiad diweddaraf, Speechless, cyd-gynhyrchiad gyda Shared Experience, dderbyniad gwresog yn yr Edinburgh Festival Fringe. Enilloddd wobr Fringe First ac fe'i enwebwyd am Wobr Rhyddid Mynegiant Amnest.
|