![]() DANCE SHORTS Blas ar waith dawns newydd a chyffrous am ddim yn y cyntedd cyn perfformiadau dawns y tymor hwn mewn lleoliadau allweddol ledled Cymru. Mae Dance Shorts yn gyfle i gynulleidfaoedd Cymru weld 10 munud o waith dawns newydd gan artistiaid dawns sy'n dod i'r amlwg. Dewch 30 munud cyn i'r brif sioe ddechrau i fwynhau Dance Short newydd syfrdanol sy'n si_r o godi awydd arnoch ar gyfer y prif ddigwyddiad. Mae DANCE SHORTS yn bartneriaeth newydd rhwng lleoliadau ac artistiaid a wnaed yn bosibl yn sgil grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn dilyn ei llwyddiant yn 2008 bydd y fenter yn comisiynu tri artist dawns i greu deng munud o waith dawns newydd a chyffrous i'w berfformio am ddim yn y cyntedd 30 munud cyn y prif berfformiad. Bydd y gwaith i'w weld yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Canolfan Mileniwm Cymru, Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Clwyd Theatr Cymru, Theatr Parc a Dare, Theatr Brycheiniog, Theatr y Torch, Theatr y Fwrdeistref a Galeri Caernarfon rhwng mis Hydref 2010 a mis Mai 2011. Yr artist dawns cyntaf a ddewiswyd i greu gwaith ar gyfer DANCE SHORTS yw Kylie Ann Smith o Gaerdydd, sy’n cyflwyno dawns ddoniol dros ben o'r enw ‘Brigâd Cymorth Cyntaf’. Cadwch lygad allan am y criw brith wrth iddynt berfformio'u cymorth cyntaf, yn rhwymo rhwymynnau ac yn arddangos technegau adfywio ceg wrth geg ar eu cleifion diarwybod. Mae perfformiadau Dance Shorts! am ddim i bawb, felly dewch 30 munud cyn y prif ddigwyddiad dawns a restrir isod yr hydref hwn i fwynhau dawns fer sy'n si_r o'ch diddanu, eich syfrdanu a'ch cyfareddu. 3ydd o Hydref 6pm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rhan o ddiwrnod agored yng Nghanolfan Mileniwm Cymru Swyddfa Docynnau: 08700 40 20 000 5ed o Hydref 6.45pm yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd cyn Yasmin Vardimon Swyddfa Docynnau: 01633 656 757 7fed o Hydref 7pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Taliesin Abertawe cyn The Featherstonelaughs Swyddfa Docynnau: 01792 60 20 60 12fed a'r 13eg o Hydref 6.30pm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn Alvin Ailey American Dance Theatre Swyddfa Docynnau: 08700 40 20 00 20fed o Hydref 7pm yn Theatr y Park and Dare Treorci cyn Ballet Annibynnol Cymru Swyddfa Docynnau: 0800 147 111 6ed o Dachwedd 7pm yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth cyn Yasmin Vardimon Swyddfa Docynnau: 01970 62 32 32 I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag emmacarlsonwales@hotmail.com neu ewch i'n gwefan yn www.danceshorts.co.uk |
web site: www.danceshorts.co.uk |
e-mail: emmacarlsonwales@hotmail.com |
Thursday, September 23, 2010![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999